Rheolwr Cyfathrebu Canolfan Peniarth
Disgrifiad Swydd
Llawn Amser, Cyfnod Penodol o 2 flynedd
Bydd y rôl hon yn arwain ar y gwaith o farchnata Canolfan Peniarth, sef canolfan gyhoeddi a hyfforddiant iaith Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Rhan greiddiol o waith y deiliad fydd codi proffil y Ganolfan yn genedlaethol gan gynnwys marchnata ei chynnyrch led-led Cymru.
Bydd y deiliad yn gyfrifol am raeadru gwybodaeth ynghylch holl weithgarwch Canolfan Peniarth gan gynnwys ei phrosiectau amrywiol, ei chyhoeddiadau addysgol, y rhaglenni sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Sabothol, ei phrosiectau ymchwil a'i gwaith ymgynghorol.
Bydd gofyn bod deiliad y swydd yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog ac ar sgiliau iaith cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Adran: Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Campws: Campws Caerfyrddin
Cyflog: £32,267
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 03.06.2013
Ffôn: 01267 676842
E-bost: humanresources@ydds.ac.uk
Swyddog Gweinyddol Prosiect Iechyd, Diogelwch ac Effaith Amgylcheddol
Disgrifiad Swydd
Arweinir y Prosiect Iechyd, Diogelwch ac Effaith Amgylcheddol gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae'n rhan o'r Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith, a gyllidir gan Raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol yr UE drwy Lywodraeth Cymru. Nod y prosiect hwn yw creu cyfleoedd i hyfforddi dysgwyr seiliedig ar waith mewn Busnesau Bach a Chanolig a sefydliadau eraill. Bydd y ddarpariaeth yn ddwyieithog a bydd ar gael ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.
Lluniwyd y prosiect Iechyd, Diogelwch ac Effaith Amgylcheddol (ID ac EA) i adael gwaddol o well Iechyd a Diogelwch yn y gweithle ynghyd â lleihad yn yr Effaith Amgylcheddol. Bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i arfer gorau cyfredol yn eu sector, yn dadansoddi’u gweithle ac yn argymell dulliau ar gyfer gwella.
Swyddog Gweinyddol
Rhan Amser (0.5 CALl), Tymor Penodol tan 30 Mehefin 2015
Bydd rôl y Swyddog Gweinyddol yn ymwneud â darparu cymorth gweinyddol o safon uchel i’r prosiect.
Campws: Campws Caerfyrddin
Cyflog: Cyflog yn dechrau ar £20,172 pro rata
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 06.06.2013
Ffôn: 01267 676842
E-bost: humanresources@ydds.ac.uk



