Creadigrwydd ac Arloesedd mewn Micro Fentrau (CAMF neu CIME)

Nod prosiect CAMF yw helpu micro fentrau ar draws De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Iwerddon i ddod yn fwy cystadleuol trwy gael eu cyflwyno i dechnegau meddwl creadigol.Beth mae CAMF yn ei gynnig?

Yng Nghymru, mae'r prosiect yn darparu rhaglen o ddigwyddiadau rhwydweithio a gweithdai datblygu. Darperir y digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim i'r busnesau sy'n cymryd rhan.

Pwy all CAMF helpu?

Mae CAMF yn cynnig gwasanaethau i ficro fentrau a busnesau bach yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Os oes gennych lai na 50 o weithwyr a/neu drosiant sy'n llai na €10m, yna mae'n bosibl y gallwch elwa o CAMF.

Partneriaid y Prosiect

Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Iwerddon - Cymru  (INTERREG 4A) ac fe'i goruchwylir yng Nghymru gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru  
Arweinir y prosiect gan Awdurdod Rhanbarthol y De-Ddwyrain yn Iwerddon. Ein partneriaid eraill yw Prifysgol Fetropolitan Abertawe  a Bwrdd Menter Swydd Kilkenny .
Yn Y Drindod Dewi Sant, mae CAMF yn cael ei redeg gan yr Ysgol Busnes sydd wedi'i lleoli ar Gampws Llambed.

Sara Fox
Prosiect CAMF
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion SA48 7ED

Rhif ffôn: 01570 424 818
E-bost: s.fox@tsd.ac.uk

Official programme logo strip INTERREG 4 Ireland Wales ERDF