Cynghrair Meddalwedd Cymru
Gwella Rhagoriaeth Busnes o ran TGCh a Datblygu Meddalwedd
Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru (CMC) yn cefnogi arloesedd a thwf ymysg busnesau Cymru a’r sector TGCh a meddalwedd o fewn ardaloedd cydgyfeirio Cymru drwy bedwar llinyn:
- Hyfforddiant DPP i Weithwyr TGCh Proffesiynol
- Cynllun Ardystio Cwmnïau TGCh
- Prosiectau Datblygu i Fyfyrwyr
Beth mae CMC yn ei gynnig?
Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru'n creu platfform i ddatblygwyr ar draws y rhanbarth fel y gallant rwydweithio a rhannu arfer orau, ac mae'n hyrwyddo Cymru fel sbardun allweddol o ran Datblygu Meddalwedd.
Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru'n cynnig gweithdai ar ddwy lefel. Maent yn cael eu cyflwyno yn rhad ac am ddim ar hyd y flwyddyn: amrywiaeth o weithdai byrion awr o hyd; a sesiynau datblygu ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, yn parhau am 2 ddiwrnod o leiaf.
Pwy gall CMC ei helpu?
Busnesau bach a chanolig (BBaChau) Cymru, cyflenwyr TGCh i fusnesau, y diwydiant meddalwedd a thechnoleg yn gyffredinol, peirianwyr meddalwedd, gweithwyr TG proffesiynol, myfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf a myfyrwyr MA/MSc/MEng.
Meini Prawf:
- Mae Busnesau Bach a Chanolig yn cyflogi rhwng 1 a 250 o weithwyr, â throsiant o ddim mwy na 50 miliwn Ewro neu gyfanswm mantolen flynyddol nad yw'n fwy na 43 miliwn Ewro.
- Rhaid i bob cwmni neu ymarferydd TGCh fyw neu weithio yn ardal gydgyfeirio Cymru.
- Rhaid i fyfyrwyr fod yn israddedigion ar eu blwyddyn olaf neu'n fyfyrwyr MA/MSc/MEng.
Mae'r tîm yn YDDS yn cefnogi busnesau ac unigolion yn siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion.
Partneriaid y Prosiect
Mae CMC yn cael ei hariannu gan Gronfa Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop yr UE drwy Lywodraeth Cymru.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgolion Bangor, Morgannwg, Aberystwyth, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yr Ysgol Busnes sy'n rhedeg CMC.
Christine Logan
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Campws Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion SA48 7ED
E-bost: c.logan@tsd.ac.uk
Ffôn: 01570 424 970
Gwybodaeth Bellach
Gwefan: http://softwarealliancewales.com/?page=Home&lg=cym



