Go WalesGo Wales logo

Mae GO Wales wedi helpu miloedd o fusnesau bach i ddatblygu trwy ddefnyddio syniadau, gwybodaeth a brwdfrydedd myfyrwyr a graddedigion. 

Mae ein gwasanaethau'n cynnwys:

  • Lleoliadau Gwaith gyda Chymhorthdal
  • Cyllid i Hyfforddi a Datblygu Graddedigion
  • Lleoliadau Gwaith gyda Chymhorthdal

Mae lleoliadau gwaith yn cynnig cyfle hyblyg, risg isel i recriwtio myfyrwyr a graddedigion medrus ar gyfer prosiectau tymor byr.

  • Yn ystod lleoliad bydd myfyriwr neu rywun â gradd yn gweithio gyda chi am 6-10 wythnos i gwblhau prosiect neu set o dasgau a fydd yn fanteisiol iawn i'ch busnes. Gall hyn fod yn llawn amser neu'n rhan amser.
  • Cost wythnos o gyflog yw £250 ac mae GO Wales yn rhoi cymhorthdal o £95 yr wythnos tuag at hyn.
  • Rydym yn gweithio gyda busnesau ym mhob sector a diwydiant ar draws Cymru a gallwn helpu ag unrhyw brosiect sydd gennych mewn golwg o safon graddedigion.

Cyllid i Hyfforddi

Gall busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) yng Nghymru gael hyd at £1500 tuag at y gost o hyfforddi gweithwyr graddedig gan ddefnyddio'r Gronfa Hyfforddi a Datblygu Graddedigion.

  • Gallwn gynnig hyd at £1,500 tuag at y gost o hyfforddi unrhyw aelod o'ch staff sydd â chymhwyster NQF Lefel 4 megis gradd, HND, HNC neu gyfwerth.
  • Rydym ni'n ariannu 50% o'r cwrs a chithau'n talu'r gweddill.
  • Mae croeso i gyfranogwyr o bob oed, ac unrhyw bryd ar ôl graddio.
  • Rhaid i chi gyflwyno cais i ni cyn bwcio neu dalu am yr hyfforddiant.

Am fwy o Wybodaeth

ESF Logo

Gwefan - http://www.gowales.co.uk/

Cysylltwch â'ch swyddfa GO Wales leol:

Swyddfa Llambed

Ffôn - 01570 424833
E-bost - gowaleslamp@ydds.ac.uk

Swyddfa Caerfyrddin

Ffôn - 01267 676830
E-bost - gowales@ydds.ac.uk