Ymgynghoriaeth

TSD can offer expertise to businesses under consultancy arrangements Gall gwasanaeth ymgynghori uniongyrchol y Brifysgol roi cyfle i’ch busnes fanteisio ar ystod eang o wasanaethau arbenigol.  

Am fod llawer o’n staff yn arweinwyr yn eu maes, trwy'r gwasanaeth ymgynghori uniongyrchol sicrheir y trosglwyddir eu gwybodaeth, profiad a’u harbenigedd i’ch busnes ar delerau masnachol.   Wrth ichi weithio gyda'n staff bydd modd i chi fanteisio ar yr adnoddau a’r dechnoleg  o safan ryngwladol sydd i’w cael yn y Brifysgol.

Datblygir ein gwasanaethau ymgynghori wrth drafod â chi ac yn ôl anghenion eich busnes ac fe'u strwythurir i sicrhau eich bod yn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd gan y Drindod Dewi Sant i’w cynnig.

Os hoffech gael cyfle i ymchwilio i'r modd y gallai'r Brifysgol fod o gymorth i chi yn eich busnes, mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu.

Dewch i wybod mwy am ein gwasanaethau ymgynghori: