Llysgenhadon Myfyrwyr
Dylid gwneud ceisiadau am fod yn Llysgennad Myfyrwyr i Trystan Rees. Anfonwch CV pwrpasol (i ddangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf) a llythyr i ategu'r cais. Dylai’r ddwy ddogfen fod ar fformat Word a’u anfon fel atodiadau at: t.rees@ydds.ac.uk
Mae cymorth a chefnogaeth gyda'r broses ymgeisio ar gael gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.
31 Hydref 2012 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Cynhelir cyfweliadau ar 14 Tachwedd. 21 Tachwedd yw dyddiad y diwrnod hyfforddi gorfodol ar gampws Llambed a 28 Tachwedd ar gampws Caerfyrddin.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cyflogi Llysgenhadon Myfyrwyr fel rhan o strategaeth ehangu mynediad y Brifysgol a’i gwaith yn y Partneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach, Ymgyrraedd yn Uwch. Rhan arall o’r gwaith yw gweithio yn yr Uned Farchnata a Chyfathrebu.
Amcan gweithgareddau Ehangu Mynediad yw annog pobl i ystyried Addysg Uwch, trwy godi eu hymwybyddiaeth, eu dyheadau a’u lefelau cyrhaeddiad. Bwriadant hefyd gefnogi’r iaith a’r diwylliant Cymraeg a dwyieithrwydd ym maes Addysg Uwch.
Mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn helpu i redeg gweithgareddau ehangu mynediad gyda phobl ifanc sy’n astudio mewn ysgolion uwchradd a Cholegau Addysg Bellach yn ogystal ag yn y gymuned ehangach. Anelir y gweithgareddau hyn yn arbennig at bobl nad ydynt yn ystyried Addysg Uwch er bod ganddynt y potensial i elwa arni.
Gallai’r digwyddiadau gael eu cynnal ar gampysau’r Brifysgol, neu mewn ysgol neu goleg neu allan yn y gymuned. Gall digwyddiadau fod yn rhai cyffredinol neu yn benodol i bwnc. Gall fod digwyddiadau hefyd i rieni neu ofalwyr y bobl ifainc. Gall digwyddiadau mewn ysgolion neu golegau gynnwys mentora a chynnal clybiau a gweithgareddau ar ôl ysgol.
Ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithgareddau bydd angen i Lysgenhadon Myfyrwyr, ar ôl hyfforddiant, weithio gyda grwpiau bychain o fyfyrwyr ysgol neu goleg er mwyn:
- eu hannog i ystyried Addysg Uwch fel dewis ar gyfer y dyfodol;
- hwyluso gweithgareddau mewn grwpiau bychain;
- arwain trafodaethau grŵp;
- arwain teithiau o gwmpas y campws;
- rhoi gwybodaeth ac ateb cwestiynau ynglŷn â bywyd fel myfyriwr.
Bydd hyfforddiant a sesiynau briffio cyn pob digwyddiad, y bydd yn hanfodol i bawb fod yn bresennol ynddynt.
Bydd nifer o brosiectau yn y gymuned yn cael eu rhedeg yn ystod y flwyddyn a bydd angen i Lysgenhadon Myfyrwyr gael gwybodaeth benodol am sgiliau cynhyrchu i’r cyfryngau ar gyfer y gweithgaredd y bydd angen mentora aelodau o’r gymuned a phobl ifanc wrth iddynt wneud ffilmiau byr, gwe-lediadau ac ati. Rydym felly wrthi’n chwilio am geisiadau gan fyfyrwyr yn y disgyblaethau perthnasol ar gyfer y rolau hyn.
Mae’n bosibl hefyd y caiff Llysgenhadon Myfyrwyr eu cyflogi er mwyn hyrwyddo’r Brifysgol mewn gweithgareddau megis Ffeiri Addysg Uwch, Diwrnodau Agored, digwyddiadau UCAS ac ati. Yr Uned Farchnata a Chyfathrebu fydd yn cyflawni’r gwaith hwn.
Fe fydd pob un o’r Llysgenhadon Myfyrwyr yn cael ei gyfweld.
Y cyflog presennol yw £6.41 yr awr. Gweler isod am ddisgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn.
Disgrifiad Swydd Llysgenhadon Myfyrwyr (pdf)
I gael rhagor o fanylion a/neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â:
|
Trystan Rees E-bost: t.rees@ydds.ac.uk |
Eve Warburton E-bost: e.warburton@ydds.ac.uk |



