Canolfan y Cyfryngau

Mae Canolfan y Cyfryngau’n darparu offer ac arbenigedd technegol i gefnogi addysgu ac ymchwil.

Hefyd rydym yn darparu gwasanaeth allanol ar sail fasnachol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau.

Mae Canolfan y Cyfryngau’n rhan o'r uned Gwasanaethau Gwybodaeth.  Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Gwasanaethau

  • Cyngor technegol ar gyfer cynyrchiadau, cynadleddau, cyngherddau a digwyddiadau arbennig
  • Darparu offer clyweled mewn Theatrau Darlithio ac Ystafelloedd Seminar
  • Staff Technegol yn hyfforddi defnyddwyr ac yn gweithredu offer
  • Cyngor ar brynu offer clyweled i adrannau’r Brifysgol
  • Arddangos offer clyweled
  • Darparu gwasanaeth profi offer cludadwy trydanol
  • Cymorth technegol ynglŷn â gwe-ddarlledu ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau
  • Cymorth gyda fideo-gynadleddau