Ffasiwn Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol i’w chael ar gampysau’r Brifysgol yng Nghaerfyrddin.

Anelwn at gyflwyno’r datblygiadau diweddaraf yn y meysydd hyn i’r myfyrwyr.

Mae’r staff yn arbenigwyr yn eu maes ac mae ganddynt gysylltiadau lu â’r meysydd creadigol ac academaidd sy’n cefnogi’r hyn a addysgant.

Paratoir myfyrwyr sy'n graddio ar gyfer bywyd o hyblygrwydd creadigol a chysyniadol ar lefel broffesiynol. Y nod yw datblygu graddedigion amrywiol sy’n gallu addasu trwy gyfrwng cyfres o fodylau ymarferol a damcaniaethol sy’n gysylltiedig â safonau’r diwydiant a chysyniadau ynghylch creadigrwydd sy’n dechrau dod i’r amlwg.

Rydym yn annog pobl i ddefnyddio gwybodaeth feirniadol mewn gweithredoedd creadigol trwy gyfrwng iaith weledol. Cyflwynir y myfyrwyr i’r un heriau a’r un profiadau â’r diwydiannau creadigol y byddant yn dod yn rhan ohonynt.

Mae’r gallu ym maes dadansoddi a chreadigrwydd ymhlith y sgiliau mwyaf gwerthfawr a hyblyg y gall unrhyw un feddu arnynt. Trwy weithio gyda’r diwydiannau ym maes y cyfryngau a chymunedau creadigol sicrheir bod ein graddedigion yn gyfranwyr yn hytrach na dilynwyr.