Gweld pob eitem o'r newyddion...
Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar restr fer Gwobrau Gŵyl Ffresh
08.02.2011
Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar restr fer Gwobrau Gŵyl FfreshMae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth ei bodd bod 9 o’i myfyrwyr wedi cael eu cydnabod gan feirniaid o fyd diwydiant ar gyfer Gŵyl Ffresh, sef Gŵyl Delwedd Symudol Cymru.
Ers ei sefydlu yn 2002, mae Ffresh wedi dathlu’r gweithiau gorau gan egin dalentau ym maes y ddelwedd symudol ledled y byd, trwy gyfrwng rhaglen o ddangosiadau, sesiynau panel, dosbarthiadau meistr a gweithdai, sydd yn agored i’r cyhoedd a myfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig.
Meddai Trevor Harris, Cydlynydd Rhaglen Cynhyrchu’r Cyfryngau yn yr Ysgol Celf, Ffilm a’r Cyfryngau:
“Rydym wedi gwneud yn hynod o dda i gael myfyrwyr ar y rhestr fer mewn 4 categori gwahanol – Ffuglen ôl-raddedig, Ffuglen israddedig, Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol, a’r iaith Gymraeg. Am y chweched flwyddyn yn olynol mae gennym fyfyrwyr ar y rhestr fer yn y categori Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol, ac at ei gilydd rydym yn drydydd o ran y nifer o enwebeion, ymhell ar y blaen i brifysgolion llawer mwy o faint yng Nghymru.
“Rydym yn eithriadol o falch o waith ein myfyrwyr ac wrth ein bodd i weld eu rhinweddau’n cael eu cydnabod gan feirniaid o’r diwydiant mewn cystadlaethau yng Nghymru. Mae ein myfyrwyr yn parhau i gynhyrchu gwaith rhagorol gan ymroi i fod yn arloesol, i adrodd stori a difyrru, gan bontio’r damcaniaethol a’r ymarferol ar gyfer cynulleidfaoedd cyfoes. Dymunwn yn dda iddynt yn Sioe Wobrau Ffresh, a gynhelir yn yr ATRiuM, Prifysgol Morgannwg, yng Nghaerdydd ar 11 Chwefror.”
Mae Benjamin Scarsbrook ar y rhestr fer yn y categori Ffuglen Ôl-raddedig. Mae Release yn ymwneud â dyn sy’n cael ei blagio gan ffigwr disymud sy’n gofyn yn barhaus iddo ei ladd. Yn ôl y beirniaid “gwnâi ddefnydd beiddgar o ddu a gwyn a chwaraeai gyda’r cyfrwng wrth neidio o un cymeriad neu leoliad i un arall er mwyn cyfleu cyflwr meddwl.”
Yn ogystal mae Natalie Williams wedi cyrraedd y rhestr fer yn yr un categori am Upgrade, ffilm am ddyn ifanc sy’n anhapus â’i fywyd undonog. Un dydd mae’n honni iddo ddarganfod ei fod yn robot. Beth fydd ei ddau ffrind gorau’n ei feddwl pan fydd yn gofyn am gael ei uwchraddio? Yn ôl disgrifiad y beirniaid mae’n “syniad gwreiddiol ac mae’n amlwg yn cynnwys neges ynglŷn â’r disgwyliadau sydd gan ddynion ifanc ohonynt eu hunain. Roedd y berthynas rhwng y tri chymeriad yn deimladwy ac ymdriniwyd â hyn mewn modd sensitif.”
Yn y categori Ffuglen Israddedig mae ffilm Kirsty Davies Isabella yn ymdrin â merch ifanc sy’n cael trafferth gyda’i hysgrifennu a meysydd dysgu eraill. Wrth iddi aeddfedu mae’n wynebu nifer o heriau yn hyn o beth ac yn dod i delerau â’i dyslecsia.
Ac mae ffilm Luke Adams A Life in a Day yn adrodd stori dyn sy’n deffro ar ddiwrnod hollol normal i bob golwg, ond pwy a ŵyr sut y bydd pethau’n datblygu…
Yn y categori Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol mae Virtual Degree Lampeter 2010 gan David Makings yn gynhyrchiad ysgafn sy’n cynnwys heriau academaidd a phersonol wrth geisio am gymhwyster anodd ei gael. Yn ôl y beirniaid “mae hwn yn gysyniad gwych gan Dave lle rydych chi’n gallu rhyngweithio â gwahanol feysydd y Brifysgol er mwyn ennill pwyntiau tuag at ‘radd rithwir’. Mae’r cysyniad yn annog rhyngweithio am hwyl, sy’n ffordd ddymunol iawn o ledaenu gwybodaeth.”
Mae ffilm Matthew Knowles, Virtual Tour of the Lampeter Campus, yn cynnwys taith dywys ar fideo o’r Brif Lyfrgell a chysylltiadau rhwng lleoliadau panoramig a grëwyd gan ddefnyddio ‘camera cadair olwyn’ arloesol. Gan gydnabod yr ymagwedd weledol a thechnegol unigryw a geir yn y gwaith, yn ôl y beirniaid mae arddull Matt yn hepgor “y trosolwg adrannol a geir mewn taith rithwir nodweddiadol er mwyn cyflwyno profiad o ymgolli’n llwyr. Mewn ymagwedd wreiddiol cawn ein harwain ar daith drwy’r brifysgol gyda fideos pontio gwych rhwng lleoliadau.”
Mae ffilm Matthew Mensley futureMan vs. Cereal Killer. Episode 1 – Back from the future yn ffilm am y dihiryn The Cereal Killer, sydd wedi dychwelyd o’r dyfodol, ac sydd unwaith eto’n lladd ei ddioddefwyr gan ddefnyddio brandiau cyffredin o rawnfwydydd brecwast. A fydd ein harwr dewr futureMan yn achub y dydd?! “Syniad hynod o wreiddiol a ddaeth yn fyw gyda hiwmor gwych. Mae thema gref yn rhedeg trwy’r ffilm a defnydd ardderchog o fideo a rhyngweithioldeb rhithwir, sy’n ategu’r naratif,” yn ôl y beirniad.
Ac am y tro cyntaf, mae 3 ffilm Gymraeg ei hiaith wedi cyrraedd y rhestr fer. Ffilm ddogfen yw Ar Goll gan Owain Dafydd sy’n archwilio’r diwylliant a’r newid sydd wedi digwydd mewn tref fach yng Nghymru. Mae’n cwestiynu hunaniaeth y dref fel cymuned Gymraeg ei hiaith a'i nod yw cyflwyno darlun gonest o dref sy’n dirywio, sydd â photensial ond sydd ddim yn elwa o’i rhinweddau ei hun.
Yn ôl y beirniaid “Ffilm ddi-naratif ydyw sy’n defnyddio barddoniaeth a delweddaeth i fynd a ni am dro drwy Sir Gaerfyrddin a Chymru. Cyfarwyddo gafaelgar a gwaith cysyniadol diddorol. Defnydd gwych o drac sain oedd yn creu symffoni synhwyrus i gyd-fynd â’r lluniau. Da iawn, iawn.”
Mae’r beirniaid wedi disgrifio ffilm arall gan Owain Dafydd, Orange, Martini, Vienna fel y “ffilm fwyaf uchelgeisiol o’r oll a dderbyniwyd”. Mae’n adrodd hanes tri ffrind ysgol yn cwrdd â’i gilydd ym mis Rhagfyr 1980 ar ôl eu tymor cyntaf mewn prifysgolion gwahanol, ond maent yn darganfod bod dynameg eu grŵp wedi newid. Datgelir cyfrinach sy’n llywio cwrs digwyddiadau’r noson. Mae’r ffilm yn archwiliad o gyfeillgarwch, pwysau gan gymheiriaid, ac ansicrwydd.
“Drama gyfnod yn dilyn hynt a helynt tri ffrind a’u teuluoedd. Roedd yma uchelgais pendant yn y cyfarwyddo, yn y saethu ac yn y goleuo, gyda rhai o’r golygfeydd y tu fewn i’r car wedi eu cyflawni’n wych. Roedd taith y cymeriadau yn hoelio sylw o’r cychwyn, ac roedd yna elfennau o grefft ‘DOGMA’ Vintenberg, Moodysonn a Vonn Trier yn y shots hir, di-dor. Roedd yna ddyfeisgarwch a gwreiddioldeb yma hefyd o ran y ‘stunt’ oedd yn dangos dealltwriaeth o’r cyfrwng...”
Ac mae TB: Du a Gwyn gan Lowri Fflur Davies yn rhaglen ddogfen sy’n dangos effaith TB ar wartheg a moch daear yn ne-orllewin Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr ardal peilot ar gyfer difa moch daear yng ngogledd Sir Benfro. Mae cynnwys y ddogfen yn adlewyrchu’r sefyllfa o ran TB yn yr ardal honno ym mis Mai 2010. Yng ngeiriau’r beirniaid, “newyddiadura da ac yn gosod bwriad y rhaglen yn glir ac yn groyw ar y dechrau. Cynnal hyn trwy’r rhaglen ac yn llwyddo i gynnal y diddordeb drwyddi draw. Rhaglen daclus iawn.”
Ychwanega Trevor Harris, “rydym yn eithriadol o falch o waith ein myfyrwyr ac wrth ein bodd i weld eu rhinweddau’n cael eu cydnabod gan feirniaid o’r diwydiant mewn cystadlaethau yng Nghymru. Mae’n arbennig o dda gweld myfyrwyr o’r ail flwyddyn megis Luke, David a Matthew yn cael eu hamlygu fel hyn. Mae ein myfyrwyr yn parhau i gynhyrchu gwaith rhagorol gan ymroi i fod yn arloesol, i adrodd stori a difyrru, gan bontio’r damcaniaethol a’r ymarferol ar gyfer cynulleidfaoedd cyfoes. Dymunwn yn dda iddynt yn Sioe Wobrau Ffresh, a gynhelir yn yr ATRiuM, Prifysgol Morgannwg, yng Nghaerdydd ar 11 Chwefror”.
Diwedd
Gweld pob eitem o'r newyddion...



