Gweld pob eitem o'r newyddion...

Gwaith Iwan Bala yn rhan o Arddangosfa Newydd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd

28.03.2011

Mae arddangosfa newydd i ddathlu cyfraniad Derek Williams at gelf yng Nghymru yn cynnwys gwaith gan Iwan Bala, yr arlunydd Cymreig enwog a darlithydd yn y Brifysgol.

Iwan Bala Ni fydd yr enw Derek Mathias Tudor Williams yn gyfarwydd i bawb, ond y Cymro hwn yw cymwynaswr mwyaf Amgueddfa Cymru  ers Gwendoline a Margaret Davies.

Mae Iwan Bala yn ddarlithydd yn  Ysgol Celf, Ffilm a Chyfryngau  Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant ac yn  gweithio mewn amryw gyfrwng. Mae  wedi  cyhoeddi nifer o lyfrau, erthyglau ac ysgrifau ar gelf gyfoes yng Nghymru yn ogystal â chyflwyno ac ymchwilio rhaglenni teledu, addysgu a churadu.

Mae arddangosfa arall o'i waith,  "Ein Natur" yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne ar hyn o bryd  ac yn edrych ar y gwrthdaro a’r cysylltaid sy'n bodoli yn ffynnon creadigrwydd, lle mae ysbrydoliaeth heb reolaeth yn cael ei fowldio a’i drin, lle mae ymdrechion pobl i reoli eu natur ynddynt eu hunain yn naturiol.

Mae Iwan Bala hefyd yn arddangos ei waith yn yr arddangosfa ‘Deng Mlynedd i mewn’  yn BayArt, Caerdydd, arddangsofa sy’n nodi 10 mlynedd ers sefydlu Stiwdios Artistiaid Butetown a BayArt.



Gweld pob eitem o'r newyddion...