Lefelau'r Cymwysterau
Tystysgrif Addysg Uwch (Tyst AU) - Lefel 4
Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 4 ac mae’n cyfateb i flwyddyn gyntaf rhaglen lawn amser ar gyfer gradd anrhydedd. Gall cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus arwain i ail flwyddyn rhaglen Gradd Sylfaen neu Radd Anrhydedd briodol.
Diploma Addysg Uwch (Dip AU) - Lefelau 4 a 5
Mae’r Diploma Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 5 ac mae’n cyfateb i ddwy flynedd gyntaf rhaglen lawn amser ar gyfer gradd anrhydedd. Gall cwblhau Diploma Addysg Uwch yn llwyddiannus arwain i drydedd flwyddyn rhaglen gradd anrhydedd briodol.
Gradd Sylfaen (FdA / FdSc) Lefelau 4 a 5
Mae Gradd Sylfaen yn gymhwyster ar lefel addysg uwch sy’n gysylltiedig â chyflogaeth. Fe’i lluniwyd i ddarparu unigolion â’r sgiliau a gwybodaeth lefel uwch sy’n cyflawni anghenion y cyflogwr, ac ar yr un pryd yn cynnig y cyfle i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Seilir y radd yn rhannol yn y gwaith ac mae’r prosiectau ac aseiniadau’n ymwneud â rôl yr unigolyn o fewn y gweithle.
Gradd Baglor (BA / BSc) - Lefelau 4, 5, 6
Mae Gradd Baglor ag anrhydedd yn gwrs llawn amser dros 3 blynedd. Mae’r rhan fwyaf o’r rhaglenni’n rhai modwlar, ac felly maent ar gael yn rhan amser, naill ai yn ystod y dydd, neu gyda’r hwyr ac ar ddydd Sadwrn yn achlysurol. Mae manylion y cyrsiau hyn yn y Prosbectws Israddedig.
Tystysgrif Raddedig (Tyst Radd) - Lefel 6
Lluniwyd y Tystysgrifau Graddedig ar gyfer y sawl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster Lefel 6 mewn disgyblaeth arall.
Tystysgrif Ôl-raddedig (Tyst Ôl-radd) - Lefel 7
Dyfernir Tystysgrif Ôl-raddedig am 60 credyd ar Lefel 7.
Diploma Ôl-raddedig (Dip Ôl-radd) - Lefel 7
Dyfernir Diploma Ôl-raddedig am 120 credyd ar Lefel 7.
Gradd Meistr (MA / MSC / MTh / MBA) - Lefel 7
Er mwyn derbyn gradd Meistr mae’n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau 180 credyd ar Lefel 7, a bydd 60 ohonynt drwy ddarn o waith ymchwil estynedig a gyflwynir mewn traethawd o 20,000 o eiriau.
Gradd Meistr mewn Gweinidogaeth (MMin) - Lefel 7
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau 180 credyd a addysgir ar Lefel 7.
Gradd Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) - Lefel 7
Mae MPhil yn ddarn o waith ymchwil gwreiddiol sy’n arwain at draethawd 60,000 o eiriau, wedi’i gwblhau o fewn 1 i 3 blynedd (neu’n hirach os byddwch yn dewis astudio’n rhan amser).
Doethur mewn Athroniaeth (PhD) - Lefel 7
Mae PhD yn ddarn o waith ymchwil sylweddol a gwreiddiol sy’n arwain at draethawd 100,00 o eiriau, wedi’i gwblhau o fewn 3 i 4 blynedd (neu’n hirach os byddwch yn dewis astudio’n rhan amser).
Doethuriaethau Proffesiynol (DBA / PhD drwy Arfer Proffesiynol neu Weithiau Cyhoeddedig) - Lefel 7
Rhaglenni doethuriaeth sy’n cyfuno gwybodaeth broffesiynol ac academaidd. Cysylltwch â ni am fanylion pellach y rheoliadau a chyfyngiadau amser.



