Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfleusterau heb eu hail i westeion hamdden a busnes, mewn lleoliadau cyffyrddus a gosgeiddig ar ei dau gampws yng Nghaerfyrddin a Llambed.
Mae’r ddau gampws yn ymhyfrydu mewn tiroedd deniadol, adeiladau modern a hanesyddol, cyfleusterau gwych a lefel gwasanaeth at bob dant, arddull a chyllideb. Rydym yn ymfalchïo yn ein henw da am gynnig lleoliad ysblennydd ynghyd â lletygarwch o’r radd flaenaf, ac mae’n gwasanaeth ar gael ar hyd y flwyddyn.
Nid yw ein Gwasanaeth Cynadledda ac Arlwyo yn eich cyfyngu i fwydlenni na phecynnau gosodedig, ond maent yn cynnig yn hytrach wasanaeth personol sy’n gweddu i’ch gofynion unigol. Estynnwn wahoddiad i chi drafod eich gofynion gyda ni.
Campws Caerfyrddin
Mae Canolfan yr Halliwell ar Gampws Caerfyrddin yn lleoliad cynadledda a grëwyd yn bwrpasol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau dydd a phreswyl, arddangosfeydd, cyflwyniadau, priodasau ac achlysuron arbennig eraill.
Campws Llanbedr Pont Steffan
Ar Gampws Llanbedr Pont Steffan, mae adeilad eiconig Dewi Sant yn cynnig detholiad o ystafelloedd cyfarfod wedi'u dodrefnu mewn dull clasurol a chyfleusterau o ansawdd. Mae Llyfrgell y Sylfaenwyr a adnewyddwyd yn ddiweddar, a’i hagor yn 2010 gan Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Charles, yn cynnig cyfleusterau cynadledda modern o fewn cyffiniau lluniaidd y cyn lyfrgell. Yng Nghapel Dewi Sant gellir cynnal seremonïau priodas, ac yn yr Hen Neuadd hanesyddol â’i phaneli derw, gellir cynnal priodasau a seremonïau partneriaethau sifil.
Yn Neuadd y Celfyddydau yn Llambed mae lle i eistedd 450 o bobl ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd a chyflwyniadau, gyda llwyfan wedi’i chodi â chyfarpar goleuo llawn, sain, cyfarpar clyweled a chyfleusterau cyfieithu. Mae Theatr Cliff Tucker yn ddarlithfa bwrpasol sy’n cynnig cyfleusterau cynadledda cyflawn.
Mae Neuadd Fwyta Lloyd Thomas a’r Siop Goffi 1822 gyfagos yn cynnig cyfleusterau arlwyo modern rhagorol, a dyma'r lleoliad mwyaf yng Ngheredigion, gyda lle i 375 ar gyfer ciniawa, partïon priodas neu ddigwyddiadau eraill. Mae ystafelloedd eraill sy’n cynnig awyrgylch mwy cartrefol i grwpiau llai hefyd ar gael.



