Os ydych yn astudio neu'n gweithio yn y Brifysgol, mae gennym ddwy feithrinfa - Y Gamfa Wen ar gampws Caerfyrddin a Gwdihŵs ar Gampws Llambed sy'n darparu gofal plant o safon uchel ar gyfer myfyrwyr, staff a rhieni lleol.
Mae'r ddwy feithrinfa yn cynnig amgylchedd ofalgar a chreadigol i’r plant. Llefydd rhan-amser a llawn-amser ar gael.