Llety
Pa un a ydych yn byw ar ein campws yng Nghaerfyrddin neu ein campws yn Llambed ar gyfer profiad prifysgol heb ei ail...

BYW AR Y CAMPWS
Byddwch yn annibynnol... ond yn ddiogel...
Cymorth bugeiliol wedi’i ddarparu gan Wardeniaid Neuaddau
Gwerth gwych am eich arian...
- Y rhan fwyaf o’r ystafelloedd yn ystafelloedd gwely astudio sengl
- Dim costau cuddiedig ar gyfer biliau cyfleusterau
- Cyswllt diwifr â’r rhyngrwyd
- Nifer o fwrsarïau preswyl ar gael sy’n seiliedig ar brawf modd
- Teledu cylch cyfyng a diogelwch 24 awr
Hawdd cyrraedd pob un o'r cyfleusterau...
- Ystafelloedd addysgu
- Y Ganolfan Adnoddau Dysgu
- Y Ganolfan Chwaraeon
- Bwyty’r campws
- Siop goffi Starbucks
- Undeb y Myfyrwyr
Byw ar y campws...
- Ymaelodwch ag un o’r clybiau chwaraeon niferus, gan gynnwys pêl-fasged, pêl-droed, rygbi, a hoci
- Ymunwch â Chôr y Brifysgol
- Ewch i ddigwyddiadau gyda’r nos
- Byddwch yn rhan o ddigwyddiadau celfyddydau niferus y Brifysgol
- Cymdeithaswch â’ch ffrindiau yn eich neuaddau neu yn Undeb y Myfyrwyr
Os ydych yn fyfyriwr newydd ac os oes arnoch angen llety ar y campws, bydd y Gofrestrfa’n anfon ffurflen gais at bob ymgeisydd sydd wedi derbyn lle yn y Brifysgol.
Ar gyfer myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn a myfyrwyr ôl-raddedig, bydd ffurflenni cais ar gael yn y swyddfa lety ar ddiwedd mis Tachwedd.
|
Llety Campws Caerfyrddin | Llety Campws Llambed | |
|---|---|---|
|
Swyddog Llety |
Swyddog Llety |



