Gwersylloedd Chwaraeon

Sbort a Sbri! i Blant (8-14 oed)

Gwersylloedd Chwaraeon Cwrs 1: 08 – 12 Ebrill

Cwrs 2: 05 – 09 Awst

Cwrs 3: 12 – 16 Awst

Cwrs 4: 19 – 23 Awst

A fyddech cystal â chymryd amser i ddarllen y wybodaeth ganlynol cyn llenwi’r ffurflen gofrestru.

Nodau’r Cyrsiau

  • Darparu hyfforddiant graddedig o ansawdd uchel mewn nifer o gampau
  • Darparu amgylchedd llawn hwyl a diogel i blant ddysgu chwaraeon
  • Rhoi cyfle i blant lleol gael profiad o ansawdd ac amrywiaeth cyfleusterau’r Brifysgol
  • Cyflwyno plant i chwaraeon nad ydynt, o bosibl, wedi’u chwarae o’r blaen neu eu galluogi i wella mewn campau maent eisoes yn eu mwynhau.

Y Campau

Gwersylloedd Chwaraeon Mae pob cwrs hyfforddiant yn rhedeg am bum niwrnod llawn o’r wythnos, gyda hyfforddwyr hollol gymwys sy’n sicrhau bod y plant o 8 -14 oed yn cael y cyfle gorau posibl i ddatblygu eu sgiliau mewn ffordd raddedig. Cynigiwn gymaint o gampau ag sy’n bosibl er mwyn rhoi ystod o sgiliau i’r plant eu profi a’u mwynhau.

Trefn y Dydd

08.30-09.00 Cyrraedd/Cofrestru
09.00-10.20 Gweithgaredd 1
10.20-10.40 Egwyl
10.40-12.00 Gweithgaredd 2
12.00-1.00 Egwyl am ginio
13.00-14.20 Gweithgaredd 3
14.20-14.40 Egwyl
14.40-15.40 Gweithgaredd 4
15.40-16.00 Gweithgareddau tîm
16.00 Ymadael


Ystod y gweithgareddau

Wal Ddringo Dan Do | Ffrisbi | Badminton | Pêl-rwyd | Dawnsio | Hoci | Pêl-fasged | Nofio | Polo Dŵr | Tennis Bwrdd | Tennis Byr | Mabolgiamocs | Pêl-droed | Rygbi Cyffwrdd | Pêl foli | Tanddwr | Cylchredau | Cyfeiriannu

Lleoliad

Gwersylloedd ChwaraeonCanolfan Chwaraeon,
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,
Heol y Coleg,
Caerfyrddin, SA31 3EP
Ffôn: 01267 676943

Map yr Campws

Teithio i Gaerfyrddin

Cyrraedd, Cofrestru ac Ymadael

Sicrhewch nad ydych yn cyrraedd yn gynharach nac yn hwyrach na’r amser a drefnwyd. Bydd y goruchwylwyr ar gael o 8.30am tan 4.00pm yn unig. Ni ddylid o dan UNRHYW amgylchiadau adael plant, beth bynnag yw eu hoedran, yn y Brifysgol cyn i’r goruchwylwyr gyrraedd. Rhaid i berson enwebedig sydd yn 16 oed o leiaf gofrestru’r plant I MEWN ac ALLAN bob dydd. Mae angen caniatâd ysgrifenedig os bydd plentyn yn teithio adref ar ei ben ei hun.

Goruchwyliaeth

Rydym yn darparu sesiynau dan oruchwyliaeth adeg cofrestru, cinio ac ymadael, rhwng y cyrsiau hyfforddi chwaraeon.  Peidiwch â gadael i’ch plant ddod ag eitemau drud gyda nhw. Ni ellir dal y Brifysgol yn gyfrifol os bydd yr eitemau hyn yn cael eu colli neu eu difrodi.

Bydd pob sesiwn chwaraeon dan ofal hyfforddwyr hollol gymwys a phrofiadol. Mae pob un o’n hyfforddwyr a’n goruchwylwyr wedi cwblhau datgeliad manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) i sicrhau eu bod yn addas i weithio gyda phlant.

Bwyd a Diod

Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn dod â phecyn bwyd a digon o ddiodydd. Bydd sawl egwyl yn ystod y dydd. Rhowch botel ddŵr y gellir ei hail-lenwi i’ch plentyn.

Dillad

Gwersylloedd Chwaraeon Bydd pob eitem o offer chwaraeon yn cael ei darparu, ond sicrhewch bod eich plentyn yn dod â digon o ddillad ac esgidiau chwaraeon bob dydd (h.y.  crysau T, siwmperi, siorts, tracwisg, gwisg nofio a gogls, esgidiau ymarfer dan do glân, top glaw ysgafn, het haul). Mae’n rhaid cael eli haul – nid oes gennym hawl i gyflenwi na rhoi eli haul ar unrhyw blentyn, felly gwnewch yn siŵr eu bod yn dod â pheth gyda nhw yn ystod cyrsiau’r haf.

Costau

£95 yr wythnos yw’r ffi, hynny yw pum niwrnod rhwng 8.30am – 4pm (£2.53 yr awr!) Gostyngiad ar gael i deuluoedd.

Bwcio

Gwersylloedd Chwaraeon Er mwyn bwcio lle, lawrlwythwch y ffurflen gofrestru ac wedi i chi ei llanw, anfonwch y ffurflen ynghyd â manylion meddygol a datganiad i’r cyfeiriad isod, gyda’r ffioedd llawn sydd i’w talu ar gyfer pob cwrs. Rhaid llenwi un ffurflen i bob plentyn. Caiff lleoedd eu clustnodi ar sail y cyntaf i’r felin.

Gellir talu â cherdyn neu siec yn daladwy i ‘Y Drindod Dewi Sant’.  Fe gewch gadarnhad o’ch lle a derbynneb o’r taliad trwy lythyr. Nodwch yn glir ar y ffurflen gais os oes angen cadarnhad trwy ddull arall.

Ad-daliadau/Canslo

Ni ellir rhoi ad-daliad os byddwch yn canslo o fewn 7 diwrnod i’r cwrs. Codir ffi canslo o £10 os byddwch yn canslo mwy na 7 diwrnod cyn y cwrs. Os nad yw’r niferoedd yn ddigonol i gynnal unrhyw gwrs, bydd dewis arall yn cael ei gynnig i bob plentyn ar y cwrs neu bydd ad-daliad llawn yn cael ei roi.

Rhaid i ni dderbyn y ffurflenni cofrestru a’r tâl o leiaf 3 wythnos cyn dechrau’r cwrs.

Ffurflen Gorfestru - Gwersylloedd Chwaraeon‌ (pdf)

Dylid anfon y rhain at Weinyddydd y Gwersylloedd Chwaraeon:

Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol,
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,
Heol y Coleg,
Caerfyrddin, SA31 3EP

Rhif Ffôn: 01267 676806 / 676943
E-bost: sportscamp@ydrindoddewisant.ac.uk