Gweld pob eitem o'r newyddion...

Cyngerdd yn llwyddiant ysgubol

01.07.2009

Karl_Jenkins

Daeth Gŵyl y Drindod i ben eleni gyda channoedd o gynulleidfa’n mynychu cyngerdd arbennig i ddathlu statws coleg prifysgol.

Arweiniodd y cyfansoddwr byd enwog Karl Jenkins ei waith ei hun, O Beata Trinitas, a gomisiynwyd gan y Brifysgol ar gyfer yr achlysur.  Cafodd y gwaith, a ysgrifennwyd gan Grahame Davies mewn tair iaith, ei berfformio gan gôr torfol yn cynnwys lleisiau 120 o aelodau Côr y Drindod, Côr Aelwyd CF1 a Chôr Godre’r Garth ynghyd â Cherddorfa Siambr Cymru.

Roedd y gyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiadau unigol gan y soprano Fflur Wyn, tenor Alun Rhys Jenkins a’r baswr Owen Webb ynghyd â pherfformiad o Carmina Burana gab Carl Orff a arweiniwyd gan Andrew Greenwood.

Hefyd ar y rhaglen oedd perfformiad o ddarn corawl poblogaidd Eric Jones Y Tangnefeddwyr gyda threfniant cerddorfaol gan y Cyfarwyddwr Artistig Eilir Owen Griffiths ar gyfer yr achlysur.

 Dywed Eilir  “Gŵyl y Drindod eleni oedd y gorau to o ran nifer y cynulleifaoedd a’r ffaith ein bod yn dathlu statws coleg prifysgol.

Karl_Jenkins_Eilir_Owen_Griffiths “Roedd yna nifer o uchafbwyntiau”, ychwanegodd “Roedd perfformiad y myfyrwyr o’r sioe Clymau yn ddigwyddiad agoriadol gwych ac roedd y noson i ddathlu’r brifysgol drwy’r celfyddydau a oedd yn cynnwys nifer o fawrion y genedl yn cynnwys Menna Elfyn, Iwan Bala, Mererid Hopwood, Nigel Jenkins, Mary Lloyd Jones a T James Jones, yn fythgofiadwy.  Mae Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows yn mynd o nerth i nerth ac yn denu cantorion o ar draws y byd ond eleni dywedodd y beirniaid fod y gystadleuaeth wedi bod o safon arbennig o uchel.  Ond roedd Cyngerdd y Dathlu yn un na fyddai wedi bod allan o le ar unrhyw lwyfan.  Cododd y corau i’r her i berfformio yn wych ac wrth gwrs fe swynodd y ferch leol Fflur Wyn ei chynulleidfa.   Rydym yn ddiolchgar i Karl Jenkins, Andrew Greenwood a phawb am gymerodd rhan gan roi perfformiad o safon fyd eang. 

“Dyma ddiweddglo addas i gyfnod o ddathlu cyhoeddus” meddai’r Is-ganghellor Dr Medwin Hughes.  “Y mae’r Brifysgol wedi meithrin enw da am eu rhaglenni hyfforddi dwyieithog yn y celfyddydau yng Nghymru. Pa well ffordd felly i’r Drindod nodi ei llwyddiant na thrwy’r celfyddydau? Yr ydym yn ddiolchgar iawn i’r artistiaid, beirdd a’r llenorion sydd wedi cyflwyno eu gwaith eisoes fel cydnabyddiaeth barhaol o’r llwyddiant hwnnw ac edrychwn ymlaen at ddatbygiadau pellach ym meysydd y celfyddydau creadigol a pherfformio.”

D I W E D D

Lluniau

  1. Dr Medwin Hughes, Dr Grahame Davies, Karl Jenkins, Fflur Wyn, Andrew Greenwood, Owen Webb, Alun Rhys Jenkins ac Eilir Owen Griffiths.
  2. Karl Jenkins ac Eilir Owen Griffiths

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon
01267 676790



Gweld pob eitem o'r newyddion...