Gweld pob eitem o'r newyddion...
Gŵyl! yn Dathlu Doniau Artistiaid o Fri
03.05.2011
Dros gyfnod o fis eleni eto bydd Gŵyl!, sef Gŵyl Gelfyddydol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn darparu gwledd o gerddoriaeth a drama.
Bydd yr ŵyl boblogaidd hon yng Ngorllewin Cymru yn cychwyn ar 30 Mai ac yn rhedeg drwy gydol mis Mehefin.
Yr Ŵyl hon eleni yw’r gyntaf ers creu’r Brifysgol newydd a chynhelir digwyddiadau yn Nhŷ Newton ym Marc Dinefwr a gerddi ysblennydd Aberglasne, yn ogystal ag mewn lleoliadau ar gampws Caerfyrddin a Llambed a’r cyffiniau lleol.
Un o brif uchafbwyntiau’r ŵyl eleni heb os fydd noson yng nghwmni Bryn Terfel. Bydd y seren opera byd-enwog yn perfformio mewn cyngerdd yng ngerddi hanesyddol Aberglasne yn Sir Gaerfyrddin ar Fehefin 25 i ddathlu creu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac mae pob tocyn eisoes wedi’i werthu.Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Wynne Evans, (Gio Compario), tri chôr Cymraeg a cherddorfa.
Lluniwyd y côr o 150 o leisiau trwy gyfuno Côr y Drindod Dewi Sant, sef côr y Brifysgol, Côr CF1 a Chôr Godre’r Garth o dan arweiniad cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl, Eilir Owen Griffiths. Bydd y côr mawr yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf erioed o ddarn a gyfansoddwyd gan Eilir ei hun, Requiem.
Mae wedi defnyddio’r cyfle i greu’r cyfansoddiad mawr hwn i groniclo diwedd cyfnod ond hefyd i ddathlu pennod newydd yn hanes y Brifysgol.
Yn ogystal comisiynwyd un o brif feirdd Cymru a darlithydd yn y Brifysgol, Mererid Hopwood, i gyfansoddi geiriau gwreiddiol ar gyfer y symudiad olaf sy’n ymgorffori holl themâu’r gwaith cyfan ac sy’n edrych ymlaen yn hyderus at ddyfodol disglair.
“Mae wedi bod yn fraint cyfansoddi’r gwaith hwn ar gyfer yr achlysur mawr yma ac i weithio gydag artistiaid mor enwog,” meddai Eilir.
“Rydw i wedi gosod geiriau Lladin traddodiadol y Requiem i gerddoriaeth ond gan hepgor Dies Irae (Dydd y Farn). Felly mae’r geiriau Lladin yn plethu â’r geiriau Cymraeg sydd wedi’u cymryd o emynau Cymraeg traddodiadol, gan arddangos ein treftadaeth.”
“Bydd yn noson fythgofiadwy ac mae’n ffordd deilwng o ddathlu creu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant”.
Rhai o uchafbwyntiau eraill y rhaglen eleni fydd Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows a gynhelir ddydd Sul 12 Mehefin ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin. Sefydlwyd y wobr ryngwladol hon er clod i’r tenor byd-enwog ac mae’n gyfle gwych i glywed lleisiau ifanc y dyfodol.
Ac mae Taming of the Shrew gan Gwmni Theatr y Festival Players ym Mharc Dinefwr ddydd Sul 19 Mehefin yn addo bod yn gynhyrchiad hynod ddyfeisgar a llawn hwyl ac egni o’r ffefryn oesol hwn.
Gyda chymaint o arddulliau gwahanol o gerddoriaeth yn ogystal â theatr, celf a llenyddiaeth, mae pob rheswm dros fod yn rhan o Gŵyl! eleni. Mae rhagor o wybodaeth a manylion sut i archebu tocynnau ar gael - www.ydrindoddewisant.ac.uk/cy/gwyl
Nodyn at y Golygydd
- Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cydweithio â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro a Choleg Ceredigion i greu prifysgol sector deuol. Golyga hyn y bydd y sefydliadau’n gweithio fel grŵp i ddarparu llwybrau dilyniant a dewisiadau i fyfyrwyr yn ogystal â rhaglenni astudio sy’n ymateb i anghenion cyflogwyr yn y rhanbarth.
- Gŵyl gerddoriaeth, theatr, celf a llenyddiaeth yw Gŵyl! a drefnir ac a hyrwyddir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac a gynhelir trwy gydol Mehefin 2011. Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl yw Eilir Owen Griffiths a Noddwr yr Ŵyl yw Karl Jenkins.
- Dilynwch y Brifysgol ar Twitter yn twitter.com/drindoddewisant. Mae porthiadau newyddion ar gael yn www.ydrindoddewisant.ac.uk/cy/porthiadaurss/
Gweld pob eitem o'r newyddion...



