Gweld pob eitem o'r newyddion...

Y Drindod a Llanbedr Pont Steffan yn Croesawu Hwb Ariannol o £14.3 Miliwn ar Gyfer Prifysgol Newydd

02.10.2009

Dr Medwin Hughes, Darpar Is-Ganghellor Prifysgol y Drindod Dewi Sant Heddiw, mae Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin wedi croesawu’r newyddion fod y Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt, wedi cymeradwyo pecyn ariannu gwerth £14.3 miliwn tuag at greu prifysgol newydd sbon yn Ne Orllewin Cymru.

Bydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn adeiladu ar dreftadaeth a chryfderau dau o sefydliad addysgol hynaf Cymru ac yn symud ymlaen i ddarparu gwell cyfleusterau ac adnoddau ar gyfer myfyrwyr a chymunedau yn yr ardal. 

Bydd y swm o £14.3 miliwn a ddyfarnwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn sicrhau y gall y brifysgol newydd ymateb i anghenion economaidd a chymdeithasol Cymru. 

Yn neilltuol, bydd yr arian yn galluogi’r Brifysgol i ymateb i anghenion am sgiliau trwy greu nifer o fentrau a thrwy wella a chryfhau meysydd academaidd sydd yno eisoes. Bydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn adeiladu ar bartneriaethau presennol gydag asiantaethau allweddol yn cynnwys colegau addysg bellach ac ysgolion er mwyn trawsnewid  addysg a hyfforddiant yn y rhanbarth.

Dr John Walters, Is Gadeirydd Cyngor y Drindod, yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Drindod, Dr Medwin Hughes, Mrs Tricia Carter, Cadeirydd Cyngor PC Llanbedr Pont Steffan a Dr Brinley Jones, Llywydd PC Llanbedr Pont Steffan. Bydd y brifysgol newydd yn cynnig cyfleoedd dwyieithog mewn addysg uwch i fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd a meysydd. Defnyddir rhaglen fuddsoddi i ddatblygu gwell cyfleusterau ar y ddau gampws ac mae staff yng Ngholeg Prifysgol y Drindod a Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan eisoes yn cydweithio’n agos i ddwyn y ddwy brifysgol ynghyd gan baratoi i greu prifysgol newydd erbyn mis Gorffennaf 2010 mewn pryd i groesawu’r myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2010.

Dywedodd y Dr Medwin Hughes, Darpar Is-Ganghellor Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, ac Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod: “Rydym wrth ein bodd â’r newyddion a gawsom heddiw. Bydd y cydweithrediad rhwng dau o sefydliadau addysgol hynaf Cymru yn creu prifysgol gyffrous a bywiog, nid yn unig ar gyfer myfyrwyr o Gymru ond ar gyfer rhai o weddill Prydain a gweddill y byd hefyd.

“Er mai yn Ne Orllewin Cymru y bydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant wedi’i lleoli, bydd i’r arlwy a gynigir apêl ryngwladol. Bydd wedi’i gwreiddio yng Nghymru ond bydd ei dylanwad yn fyd-eang.

“Mae hwn yn gam hanesyddol a fydd, nid yn unig yn creu pwerdy addysgol yn Ne Orllewin Cymru, ond hefyd yn rhoi hwb y mae gwir angen amdano i economi’r ardal.

“Trwy adeiladu ar gryfderau a threftadaeth y Drindod a Llambed, a gwella cyfleusterau a rhaglenni ar y ddau gampws, mae gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ddyfodol cyffrous a bywiog ac mae’n siŵr o ddatblygu’n sefydliad addysg uwch o fri rhyngwladol.”

Meddai yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Llywodraethwyr y Drindod "Mae cyhoeddiad y Gweinidog Jane Hutt ynglŷn â’r buddsoddiad o £14.3m ar gyfer y brifysgol newydd, Y Drindod Dewi Sant, yn cydnabod pwysigrwydd y sefydliad newydd wrth ddarparu addysg o’r safon uchaf yng Nghymru.  Bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i adfywiad cymdeithasol ac economaidd Gorllewin Cymru ac yn gymorth i ddatblygu cydlyniad cymunedol.  Mae’r buddsoddiad yn caniatáu i ni adeiladu ar draddodiadau gwych y ddau sefydliad er mwyn creu prifysgol o safon fyd-eang”.

Meddai Mrs Tricia Carter, Cadeirydd Llywodraethwyr PC Llanbedr Pont Steffan "Ar ran y Cyngor rydym yn falch iawn bod CCAUC a Llywodraeth Cynulliad  Cymru wedi cydnabod cyfraniad dau sefydliad addysg uwch hynaf Cymru, nid yn unig yn nhermau addysg ond hefyd o ran diwylliant Cymru.  Bydd y buddsoddiad yn sicrhau y bydd y brifysgol newydd, Y Drindod Dewi Sant, yn darparu dysgu o ansawdd a safon byd-eang, a bydd yn chwarae ei rhan yn themâu Cymru’n Un, sef cyfiawnder cymdeithasol a datblygiad economaidd.  Bydd y buddsoddiad yn sylfaen gadarn ar gyfer cynnydd, llwyddiant a chynaladwyedd dros y tymor hir”.

Diwedd

Llun:
1. Dr Medwin Hughes, Darpar Is-Ganghellor Prifysgol y Drindod Dewi Sant
2. Dr John Walters, Is Gadeirydd Cyngor y Drindod, yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Drindod, Dr Medwin Hughes, Mrs Tricia Carter, Cadeirydd Cyngor PC Llanbedr Pont Steffan a Dr Brinley Jones, Llywydd PC Llanbedr Pont Steffan.

Nodyn at y Golygydd

Os hoffech ragor o wybodaeth neu drefnu cyfweliad gyda’r Dr Medwin Hughes, cysylltwch ag:

Eleri Beynon yng Ngholeg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin ar 01267 676790 neu e.beynon@ydrindoddewisant.ac.uk

neu

Jane Norris-Hill ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ar 01570 424799 neu j.norris-hill@ydrindoddewisant.ac.uk

Bydd yn rhaid cael cymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor i greu’r brifysgol newydd a disgwylir hynny yn y Flwyddyn Newydd.

Gwneir ceisiadau i fynd i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ym mlwyddyn academaidd 2010/2011 trwy’r llwybrau presennol ar gyfer astudio yn Llambed a’r Drindod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.lamp.ac.uk ac www.trinity-cm.ac.uk



Gweld pob eitem o'r newyddion...