Gweld pob eitem o'r newyddion...
Prifysgol Newydd yng Nghymru?
11.12.2008
Heddiw (dydd Iau), mae cyrff llywodraethol y sefydliadau addysg uwch hynaf yng Nghymru wedi cytuno i archwilio sefydlu prifysgol newydd.
Mae Llywodraethwyr Coleg y Drindod Caerfyrddin a Chyngor Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, ar ôl ystyried adroddiad gweithgor ar y cyd a benodwyd i archwilio manteision posibl cydweithio, wedi cytuno heddiw i weithio gyda’i gilydd i sefydlu prifysgol newydd. Dan arweinyddiaeth Dr Medwin Hughes bydd y brifysgol newydd yn adeiladu ar draddodiadau ac adnoddau eu priod sefydliadau.
Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Bwrdd a’r Cyngor wedi cytuno i ffurfio Pwyllgor Sefydlu â’r cyfrifoldeb o gyflwyno cynigion ger bron cyfarfodydd y Cyngor ym mis Mawrth 2009 er mwyn gwireddu’r brifysgol newydd.
“Dyma ddatblygiad pwysig i addysg uwch yng Nghymru ac mae’n ymateb yn uniongyrchol i ddogfen bolisi Cymru’n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd â’r nod o greu cymdeithas lewyrchus trwy ryddhau potensial pobl Cymru”, meddai Dr Medwin Hughes, a fyddai’n arwain y brifysgol newydd. “Mae hanes y ddau sefydliad wedi cydblethu ers y cychwyn cyntaf yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac efallai mai dyma fydd yr amser y gwelir eu hanes yn uno”. Aeth yn ei flaen “Rydym yn sefydliadau gwahanol iawn o ran ethos a chenhadaeth, ond fe ddown â’n harbenigedd a’n gwybodaeth mewn gwahanol feysydd ynghyd i greu’r brifysgol newydd a fydd yn canolbwyntio ar anghenion ein cymunedau ynghyd ag anghenion ehangach Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae’r ffaith ein bod yn gydnaws â’n gilydd yn argoeli’n dda ar gyfer y brifysgol newydd yn yr ystyr fod gennym ni gyd wybodaeth a chryfderau sylweddol i’w cyfrannu”.
Meddai Alfred Morris, Is-ganghellor Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, “Mae hon yn adeg bwysig a chyffrous iawn yn hanes dau sefydliad cryf dros ben. Mae cyfuno’r Drindod a Llanbed yn cynnig cymaint mwy na chyfanswm y rhannau. Gyda’i gilydd gall y ddau sefydliad ddarparu’r sylfeini ar gyfer prifysgol newydd wedi’i gwreiddio yn Ne Orllewin Cymru ond sy’n mwynhau enw da cynyddol ryngwladol am ei haddysgu myfyriwr-ganolog, ei hysgolheictod, ei hymchwil a’i hastudiaeth ôl-raddedig. Bydd y brifysgol newydd honno’n ceisio adeiladu ymhellach ar bartneriaethau cyfredol â sefydliadau eraill yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a’r tu hwnt. Heb os nac oni bai mae’r hyn sy’n cael ei gynnig nawr er budd gorau’r staff, yr economi leol a Chymru. I drefi Caerfyrddin a Llanbed a’r sawl sy’n byw ac yn gweithio yno ac yn y cyffiniau, bydd hyn yn diogelu swyddi ac yn denu buddsoddiad sylweddol. Yn bwysicaf oll, mae’r datblygiadau hyn er budd gorau’r myfyrwyr presennol a chenedlaethau’r dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon 01267 676790 / 07968 249335
Dr Jane Norris-Hill: 01570 424799 / 07720 265151
Eleri Beynon
Swyddog i'r Wasg
01267 676790
e.beynon@ydrindoddewisant.ac.uk
Gweld pob eitem o'r newyddion...



