Gweld pob eitem o'r newyddion...
Cyhoeddi Llyfr Clasuron Newydd Pwysig
14.07.2009
Mae llyfr pwysig gan ddarlithydd yn y Clasuron, y Dr Errietta Bissa, newydd gael ei gyhoeddi gan y cwmni cyhoeddi enwog o’r Iseldiroedd, Brill.
Mae Governmental Intervention in Foreign Trade in Archaic and Classical Greece yn herio’r farn ysgolheigaidd gonfensiynol sef, er bod masnach yn angenrheidiol yn y byd Groegaidd hynafol, mai’n anaml ac yn achlysurol yn unig yr oedd gwladwriaethau Groeg yn masnachu’n rhyngwladol. Mae’r llyfr yn edrych ar bedwar nwydd hanfodol, sef aur, arian, coed i adeiladu llongau a grawn, o’r broses o’u cynhyrchu ac ymlaen i’w hallforio a’u mewnforio. Trwy edrych eto ar dystiolaeth hysbys a chyflwyno llwybrau ymchwil newydd, mae’r llyfr yn dangos fod llywodraethau Groeg a gwledydd eraill yn y cyfnodau hynafol a chlasurol yn chwarae rhan amlwg a rheolaidd iawn mewn masnachu tramor. Mae’r llyfr yn cynnig safbwynt newydd ar ymyrraeth wladwriaethol mewn masnach i fyfyrwyr economi Groeg ac yn cynnig golwg newydd ar y ffyrdd yr oedd ymyrraeth yn gweithio yn y byd Groegaidd.
Bydd Errietta yn dysgu modwl ar Gymdeithas ac Economi yn y Byd Groegaidd Clasurol ar gyfer israddedigion yr hydref hwn.
Mae rhagor o wybodaeth am Adran y Clasuron a’u cyrsiau i israddedigion ac ôl-raddedigion ar gael ar eu gwele yn www.lamp.ac.uk/classics. Mae rhagor o wybodaeth am y llyfr hwn ar gael ar wele Brill yn http://www.brill.nl/default.aspx?partid=210&pid=33599.
Gwybodaeth Bellach
Dr Errietta Bissa
Ebost: e.bissa@ydrindoddewisant.ac.uk
neu
Dr Jane Norris-Hill
Ebost: j.norris-hill@ydrindoddewisant.ac.uk
Gweld pob eitem o'r newyddion...



