Gweld pob eitem o'r newyddion...

Un o raddedigion campws Llambed yn ennill gwobr am y Sioe Orau yng ngwobrau ffilm Ffresh

13.02.2012

Passing of Mother Prudence

Enillodd Chris Marsh, un o raddedigion y cwrs BA Astudiaethau Ffilm a’r MA Astudiaethau'r Sgrîn y wobr am y Sioe Orau am ei ffilm “The passing of Mother Prudence” yn ngwobrau Ffresh, Gŵyl Delweddau Symudol Cymru.

Ers ei sefydlu yn 2002, mae Ffresh wedi dathlu’r gweithiau gorau gan egin dalentau ym maes y ddelwedd symudol ledled y byd, trwy gyfrwng rhaglen o ddangosiadau, sesiynau panel, dosbarthiadau meistr a gweithdai, sydd yn agored i’r cyhoedd a myfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig.

Mewn profedigaeth sgil y fam yn arwain plentyn i archwilio ystafell ei mam-gu yn unig i ddod o hyd bod rhywbeth yn aros am hi yn y cwpwrdd dillad.

Yn ystod gwylnos, mae profedigaeth mam yn arwain ei phlentyn i archwilio stafell wely ei mamgu ac yn gweld fod rhywbeth yn aros amdani yn y cwpwrdd dillad.

Mae gan y ffilm ymdeimlad cryf o ddrama i afael yn y gwyliwr wrth i’r naratif ddatgelu cyfrinach syfrdanol o'r hyn sydd yn y cwpwrdd dillad.

Meddai’r Beirniad Euros Lyn:

"Dwli ar yr arswyd David-Lynch-esque -aidd. Iasol iawn. Baswn wedi dwli gweld mwy o naratif. Roedd y sain gwyrgam yn wirioneddol wych. Ymdeimlad gwych o ddrama a arswyd o'r hyn sydd yn y cwpwrdd. "

Roedd Chris hefyd ar y rhestr fer Glimmer, Gŵyl Ffilm Hull 2011 am Plane, rhaglen ddogfen a wnaed ym Maes Awyr Manceinion am y gwylwyr awyrennau.

Caroline Thraves, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau Creadigol yn dweud:

"Eleni, enwebwyd 5 darn gan ein myfyrwyr ar y rhestr fer ac rydym yn eithriadol o falch o waith ein myfyrwyr ac wrth ein bodd i weld eu rhinweddau’n cael eu cydnabod gan feirniaid o’r diwydiant mewn cystadlaethau yng Nghymru. Mae ein myfyrwyr yn parhau i gynhyrchu gwaith rhagorol gan ymroi i fod yn arloesol, i adrodd stori a difyrru, gan bontio’r damcaniaethol a’r ymarferol ar gyfer cynulleidfaoedd cyfoes."

Gwyliwch y treiler yma:

http://vimeo.com/27031439

Gwyliwch y ffilm yma:

http://www.youtube.com/watch?v=hSmTVsmrw3s&list=UUYq8KA-dxPyaVHNkorpmbew&index=5&feature=plcp



Gweld pob eitem o'r newyddion...