Gweld pob eitem o'r newyddion...

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o'r prifysgolion mwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr

19.06.2012

Mae The Complete University Guide wedi enwi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o'r prifysgolion mwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr. Lluniwyd y tabl o ddata swyddogol yr heddlu, sy’n rhoi ‘r darlun cliriaf posibl o'r cyfraddau troseddu ar gyfer 103 o brifysgolion yng Nghymru a Lloegr.

Am y tro cyntaf, eleni mae'r canllaw yn cyhoeddi ffigurau troseddu ar gyfer yr holl brifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi canolbwyntio ar ddinasoedd gyda dwy neu fwy o brifysgolion.

Mae’r safleoedd yn seiliedig ar gyfradd gronnol y troseddau mwyaf perthnasol i fyfyrwyr: byrgleriaeth, lladrad ac ymosodiadau.

Dywedodd Dai Rogers, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn croesawu'r newyddion hwn gan fod diogelwch a lles ein holl fyfyrwyr ar ac oddi ar y campws yn holl bwysig i ni. Mae diogelwch amgylchedd y campws yng Nghaerfyrddin a Llambed yn elwa o’n cysylltiadau agos â swyddogion cymuned yr heddlu ac o’r gwaith gwych mae Undeb y Myfyrwyr a thim lles y myfyrwyr yn eu gwneud. Rydym yn hynod falch o’r gymuned ddiogel, groesawgar mae’r myfyrwyr yn eu fwynhau yma.”

Ychwanegodd Bernard Kingston, sylfaenydd The Complete University Guide:

“Er bod ansawdd y dysgu a'r rhagolygon ar gyfer cyflogaeth ar ôl graddio yn elfennau allweddol wrth ddewis cwrs prifysgol, mae'n bwysig peidio ag anwybyddu agweddau eraill ar yr amgylchedd lle bydd y myfyriwr yn byw am dair blynedd neu fwy"

http://www.thecompleteuniversityguide.co.uk/

Gwybodaeth Bellach

Elinor Howells
01570 424 859 | 07772531165
e.howells@ydds.ac.uk



Gweld pob eitem o'r newyddion...