Gweld pob eitem o'r newyddion...

Arddangosfa newydd Cyfadran y Dyniaethau

04.07.2012

Arddangosfa newydd Cyfadran y Dyniaethau

Mae Pobl, Lleoedd a Llyfrau: twristiaeth ddiwylliannol 1750-1850 yn arddangosfa newydd o lenyddiaeth hamdden a theithio yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, a drefnwyd gan y myfyrwyr sy'n graddio o Gyfadran y Dyniaethau eleni.

Bydd yr arddangosfa yn agor ar 9 Gorffennaf ac yn rhedeg trwy gydol yr wythnos raddio. Yna bydd yn symud yn barhaol ar-lein.

Meddai Dr Marta Garcia Morcillo sy’n Ddarlithydd mewn Hanes yr Hen Fyd yn Ysgol y Clasuron ac sy’n cyd-drefnu'r arddangosfa:

"Dyma'r ymarfer cyntaf o'r math hwn a drefnwyd ar y cyd gan Ysgolion y Gyfadran. Nod y prosiect yw i ddarparu ein myfyrwyr sy'n graddio â sgiliau gweithio gwerthfawr mewn unrhyw faes sy'n ymwneud â rheoli diwylliannol ac amgueddfeydd. Mae’r arddangosfa hefyd er cof am ein cyn gydweithiwr , y diweddar Tony Brothers.

Mae Pobl, Lleoedd a Llyfrau: Twristiaeth ddiwylliannol 1750-1850 yn cwmpasu ystod eang o feysydd a bydd yn apelio at unrhywun sy'n ymddiddori yn hanes Ewrop, mewn twristiaeth ddiwylliannol a'r Daith Fawr, teithio a llenyddiaeth teithio yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, mewn hanes celf a llyfrau, llenyddiaeth Saesneg, y Clasuron ac Archeoleg.

"Mae’r arddangosfa hon yn rhoi cyfle unigryw i’r darllenydd a'r ymwelydd ddarganfod gwerth y deunydd yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar wybodaeth teithio Ewrop y 18fed a'r 19eg ganrif yn ogystal âchydnabod gallu rhyfeddol y gwaith rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd gan fyfyrwyr Cyfadran y Dyniaethau, meddai Dr Garcia Morcillo i gloi.

Gwybodaeth Bellach

Elinor Howells
01570 424 859 | 07772531165
e.howells@ydds.ac.uk



Gweld pob eitem o'r newyddion...