Gweld pob eitem o'r newyddion...

Prosiect Anthropoleg yn ennill clod yn Ngwobrau Seren Aur y Cenhedloedd Unedig

31.07.2012

Mae Cyswllt Carbon Cymunedol, menter ailgoedwigo, sy’n ymwneud â Luci Attala, darlithydd o'r Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg y Drindod Dewi Sant, wedi derbyn clod yng Ngwobrau Seren Aur y Cenhedloedd Unedig.

Ru Hartwell, Director of the CCL project, Luci Attala, Anthropology Lecturer at the University of Wales Trinity Saint David and her son, Jane Davidson, Director of Inspire at the University of Wales Trinity Saint David  and Graham Benfield, WCVA Chief Executive

Dyfarnwyd y wwobr a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a CGGC, dan raglen Cysylltiadau Cymunedol Cymru Affrica am y  gwaith datblygu a gyflanwyd yn Kenya.

Mae'r prosiect yn cysylltu cymuned Llambed â chymuned llwythol pobl Giriama yn Bore, Kenya er mwyn helpu i ddatblygu strategaethau bywoliaeth gynaliadwy amgen.

Meddai Lucy:

"Mae’n diolch yn fawr i gefnogaeth hael pobl Llambed. Eleni, mae'r prosiect wedi derbyn arian gan yr ymgyrch eithriadol egnïol ‘Palu ‘Mlaen', a drefnwyd gan fyfyrwyr Dyniaethau y Drindod Dewi Sant, Abi Carrington a Colin Thurston, ac mewn cydweithrediad â Chyfadran y Dyniaethau, y cyngor lleol, rhai busnesau lleol a’r ysgol gynradd - pob un ohonynt wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn y Bore.

"Rydym yn gobeithio y bydd ein myfyrwyr Anthropoleg yn gallu teithio i Kenya i helpu gyda'r prosiect hwn yn y dyfodol agos."

Nodyn at y Golygydd

  1. Ymgyrch Palu ‘Mlaen
  2. Mae Cyswllt Carbon Cymunedol yn fenter unigryw sy'n cysylltu Llambed a Gorllewin Cymru gyda Bore yn nwyrain Kenya drwy gyfrwng y carbon. Mae CCL yn un o'r nifer o brosiectau partneriaeth rhwng cymunedau yng Nghymru ac Affrica sy’n helpu i drawsnewid bywydau ar y ddwy cyfandir gan weithio tuag at Nod y Mileniwm Datblygu 7, Cynaliadwyedd Amgylcheddol.
  3. Mae CCL yn gyswllt gymunedol unigryw sy'n annog pobl gyffredin, busnesau ac unigolion yn LLambed yn raddol  i leihau eu hôl troed drwy noddi plannu coed gyda'r gymuned yn Kenya.
  4. Heddiw Llambed yw'r dref gyntaf yng Nghymru i gael ei Gwarchodfa Cymunedau Carbon ei hun yn Kenya ac sydd wedi cymryd y cyfrifoldeb fel cymuned am ei chyfran yn creu newid yn yr hinsawdd.



Gweld pob eitem o'r newyddion...