Gweld pob eitem o'r newyddion...

Llwyddiant yn yr Eisteddfod!

13.08.2012

Llongyfarchiadau gwresog i Nia Tudor a Dyfed Bowen, dau gynfyfyriwr o Ysgol y Celfyddydau Perfformio sydd wedi dod i’r brig yng Nghystadleuaeth y Ddrama Fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dyfed Bowen a Nia Tudor
Dyfed Bowen a Nia Tudor 

Enillodd y ddrama a ddatblygwyd gan Nia fel rhan o fodiwl Prosiect Personol dan arweiniad  Cymrawd Sgriptio a Pherfformio yr Ysgol, Euros Lewis yn ystod ei thrydedd blwyddyn y wobr am y ddrama orau. Derbyniodd Dyfed y wobr am y perfformiad gorau yn y ddrama a seliwyd ar brofiadau teuluol Nia a magwraeth a phrofiadau ei brawd sy’n anabl.

Bydd Nia yn dechrau ar ei swydd newydd fel athrawes ddrama yn Ysgol Y Preseli fis nesaf. 

Llongyfarchiadau hefyd i Rhodri Jones myfyriwr o’r un Ysgol ar ennill yr ail wobr yn yr unawd allan o Oratorio 19 – 25 oed ac ail yn yr unawd Gymraeg 19 – 25 oed. Bu hefyd  yn cystadlu am Wobr Osborne Roberts.

Mae Lisa Marged, un arall o raddedigion yr Ysgol bellach ar daith gyda Y Storm, cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru. Bu hi’n brysur yn perfformio yn ystod wythnos yr Eisteddfod a bydd yn dychwelyd i Gaerfyrddin  i faes Sioe Y Siroedd Unedig, Caerfyrddin yn mis Medi. 



Gweld pob eitem o'r newyddion...