Sut i wneud cais

Dylid cyflwyno ceisiadau am astudiaeth ôl-raddedig, boed llawn amser neu ran amser, preswyl neu ddysgu o bell, yn uniongyrchol i’r Brifysgol.

Gallwch lawrlwytho copi o’r ffurflen gais neu wneud cais ar-lein trwy ein gwefan. Mae copïau papur o’r ffurflenni cais ar gael o Gofrestrfa’r Brifysgol.

Yn ychwanegol at y manylion personol ac academaidd y mae angen eu llenwi ar y ffurflen gais, bydd angen i chi gyflwyno dau dystlythyr. Yn ddelfrydol dylai’r tystlythyrau hyn fod yn rhai academaidd ond mae rhai proffesiynol neu bersonol (ond ddim gan deulu) yn dderbyniol yn achos ymgeiswyr sydd heb fod mewn addysg yn ddiweddar.

Gofynion Mynediad

Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir
(MA/MSc/MTh/MBA)

Disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch) er ei bod yn bosibl y derbynnir ymgeiswyr â gradd o ddosbarth is ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os gwneir cynnydd boddhaol.

Ystyrir pob cais yn ôl ei haeddiant ei hun, felly mae’n bosibl y cynigir lle ar sail cymwysterau mynediad a meini prawf ansafonol, yn cynnwys aeddfedrwydd, cymwysterau proffesiynol a phrofiad perthnasol. Cynghorir ymgeiswyr sydd â chymwysterau ansafonol i gyflwyno curriculum vitae byr gyda’u ffurflen gais.

Graddau Ymchwil (MPhil/PhD)

Ewch i'r rhan Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig am fwy o wybodaeth.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ac ystyriwn y ceisiadau hyn gan ddefnyddio’r un meini prawf academaidd â’r rheiny ar gyfer ceisiadau eraill. Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sydd ag iaith heblaw Saesneg yn famiaith iddynt arddangos eu hyfedredd mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar trwy gael sgôr IELTS o 6.5 o leiaf (neu ei gyfwerth).

Myfyrwyr ag Anableddau

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag anableddau. Mae ein staff cymorth myfyrwyr ar gael i drafod eich sefyllfa unigol ac i weithio gyda staff academaidd i wneud unrhyw addasiadau rhesymol angenrheidiol i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch astudiaethau. Os oes gennych anabledd, rydym yn eich annog i ddod i drafod eich anghenion gyda ni cyn gynted ag y bo modd.

Pryd i Wneud Cais?

Derbynnir myfyrwyr ar raddau ymchwil a chyrsiau dysgu o bell ar ddwy adeg yn ystod y flwyddyn: 1 Chwefror a 1 Hydref. Mae cyrsiau Meistr a addysgir trwy astudiaeth breswyl yn rhedeg unwaith y flwyddyn yn unig, gan ddechrau fel arfer tua diwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref, ac yn achos y rhain fe’ch cynghorir i ymgeisio cyn gynted â phosibl er nad oes dyddiad cau ffurfiol.

Gwybodaeth Bellach

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch ar sut i wneud cais i’r Brifysgol, yna cysylltwch â’n staff yn y Gofrestrfa:

Y Gofrestrfa
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
SA31 3EP

01267 676716
registrycc@ydds.ac.uk