Cipolwg ar Fywyd y Brifysgol
Cyrsiau gwych
Mae’r Brifysgol yn cynnig dewis o gyrsiau - o rai sy’n aneluat alwedigaethau penodol, er enghraifft Archaeoleg neu Ddysgu, i raglenni sy’n arwain at ystod o gyfleoedd gwaith addas ee, Saesneg, Clasuron a Hanes, sy’n cyfuno gwybodaeth academaidd gyda nifer o’r sgiliau trosglwyddadwy gwahanol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Mae’r rhain yn cynnwys cyfathrebu, datrys problemau, gweithio mewn timau, gwneud cyflwyniadau, sgiliau trefnu ac arweinyddiaeth. Yn bennaf oll, mae ein rhaglenni’n ceisio datblygu eich gwybodaeth academaidd o’ch pwnc a’ch sgiliau proffesiynol yn o gystal ag ystod o rinweddau personol fel gwella eich hunanhyder a datblygu sgiliau cymdeithasol.
Campysau gwych
Mae ein campysau yng Nghaerfyrddin a Llambed yn lleoedd gwych i fyw ac astudio ynddynt. Mae’r ddau safle wedi’u hadeiladu o gwmpas yr adeiladau gwreiddiol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac maent yn cynnwys tiroedd a gerddi hyfryd ac adeiladau modern a phwrpasol.
Mae’r ddau gampws yn cynnwys llety, adnoddau dysgu, Undeb Myfyrwyr bywiog, cyfleusterauarlwyo a chwaraeon, sy’n golygu nad oes angen teithiau dyddiol hir ac sy’n arbed amser ac arian ichi.
Lleoliad ardderchog
Mae Gorllewin Cymru yn lleoliad ardderchog i fod yn fyfyriwr ynddo. Mae ein campysau a’r cysylltiadau rhagorol gyda’r gymuned leol yn golygu fod myfyrwyr yn ymgartrefu a gwneud ffrindiau’n gyflym iawn, yn y Brifysgol a thu hwnt.
Mae dewis helaeth o weithgareddau a digwyddiadau yn y gymuned yn gyferbyniad dymunol i fywyd academaidd ac yn ychwanegu at y gweithgareddau a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr.
Un o brif fanteision byw yng Ngorllewin Cymru yw ymdeimlad o le. Mae’r ddau gampws wedi’u hamgylchynu gan gaeau gwyrdd ac mae digonedd o gyfleoedd ar gyfer hamddena awyr agored, gan gynnwys cerdded mynydd-dir, beicio mynydd, canwio, arfordira a syrffio, yn ogystal ag ymweliadau â safleoedd o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol. Mantais arall i fyw yng Ngorllewin Cymru yw bod costau byw yn llawer is nag mewn llawer o ardaloedd trefol, sy’n golygu y gall eich benthyciad myfyriwr fynd yn bellach, ac mae lefelau troseddu ymhlith yr isaf yng ngwledydd Prydain, sy’n rhoi ichi well ymdeimlad o ryddid personol.
Ysgoloriaethau ar gael
Mae gan y Brifysgol nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i gynnig cefnogaeth ariannol ychwanegol ichi yn ystod eich astudiaethau. Ceir rhestr lawn a manylion am sut i wneud cais yn yr adran ysgoloriaethau yn y prosbectws.
Bywyd myfyrwyr gwych
Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio ar y ddau gampws i gyfoethogi eich profiad cymdeithasol, diwylliannol ac academaidd.
Awyrgylch cyfeillgar
Mae ein campysau a’n lleoliad yn meithrin awyrgylch clòs a chyfeillgar ac fe ddewch i adnabod myfyrwyr eraill o gyrsiau a grwpiau blwyddyn eraill. Mae’r dewis o glybiau a chymdeithasau - chwaraeon ac eraill - yn annog hyn ac mae’n golygu fod digon i’w wneud y tu allan i ddarlithiau a’ch gwaith academaidd.




