Neges gan yr Is-Ganghellor,
Yr Athro Medwin Hughes 

Dr Medwin HughesDysgu ac addysgu ers tair canrifn.

Mae ymateb i anghenion y rhanbarth a darparu addysg addas i’r dyfodol yn cyd-fynd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar 18 Tachwedd 2010 ac mae iddi’r hynodrwydd o fod yn un o brifysgolion ieuengaf y DU yn ogystal ag un o’r hynaf. Fe’i crëwyd trwy uno Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin a Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.  

Dyfarnwyd siartr i’r olaf yn 1828, a estynnwyd ar gyfer creu’r brifysgol newydd, gan olygu mai’r Drindod Dewi Sant biau’r siartr frenhinol hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.  Yn 2011 daeth EUB Tywysog Cymru yn Noddwr Brenhinol iddi.

Ym mis Hydref 2012, daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe'n rhan annatod o grŵp Y Drindod Dewi Sant er y bydd yn cadw’i hunaniaeth brand ei hun at ddibenion recriwtio myfyrwyr i’r ddinas.

Fel rhan o’r strwythur Prifysgol Sector Deuol mae’r Brifysgol wedi cydweithio â’i phartneriaid Addysg Bellach ac mewn datblygiad pellach yn y berthynas hon mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wrthi’n dilyn camau diwydrwydd dyledus er mwyn uno â PCYDDS erbyn diwedd y flwyddyn academaidd.  Yn y dyfodol, bydd Prifysgol Cymru hefyd yn uno â PCYDDS.

Adeg o Newid

TSD Coat of arms

Ond, pam yr ydym yn mentro ar y fath newid trawsffurfiol yng Nghymru? Yn bendant rydym yn ymateb i gyfarwyddeb Llywodraeth Cymru i geisio cydweithredu’n nes â darparwyr addysg eraill yn y rhanbarth; ond hefyd, wrth i’r broses hon ddechrau’n deg, cawsom gyfle i ddatblygu system addysgol newydd a fyddai’n gwasanaethu anghenion Cymru a’i chymunedau.

Dywedwyd mai newid yw’r unig beth parhaus ac ni fu hynny erioed cyn wired ag ydyw ar hyn o bryd yn sector addysg uwch y DU. Bu rhaid i Brifysgolion addasu i oroesi a chofleidio ffyrdd newydd o weithio er mwyn goresgyn heriau newydd.  

Yn yr hinsawdd heriol sydd ohoni y mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn parhau i lywio’i ffordd.  Bydd creu Prifysgol Sector Deuol yn galluogi pobl i gynllunio darpariaeth addysg ar y cyd, datblygu llwybrau dilyniant a chynyddu'r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn addysg uwch trwy gynnig gwahanol ddulliau o astudio gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu o bell a dysgu cyfunol.

GWEITHIO I GYMRU GYDA PHERSBECTIF RHYNGWLADOL

Trwy ei thair cyfadran academaidd, cynigia’r Brifysgol gwricwlwm nodedig. Mae wedi datblygu mentrau allweddol i wella ei blaenoriaethau strategol yng nghyswllt datblygiad diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd a fydd o fudd, nid yn unig i'r rhanbarth, ond hefyd i anghenion ehangach Cymru.  Er enghraifft:

  • Sefydlwyd y Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) i fwrw ymlaen â'i chenhadaeth graidd sef darparu ar gyfer Cymru gynaliadwy, yn lleol, y rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol trwy sicrhau bod yr agenda ar gynaliadwyedd yn treiddio ar draws  campws, cwricwla, diwylliant a chymuned y Brifysgol. Braf gennyf nodi i INSPIRE gipio Gwobr Prifysgolion y Guardian am y Prosiect Cynaliadwyedd Gorau ac i’r beirniaid ganmol y Brifysgol am ddangos gweledigaeth rymus a oedd i’w gweld ym mhob agwedd ar y cwricwlwm ac roeddent yn uchel eu clod i greadigrwydd y Brifysgol. 
  • Datblygwyd y Ganolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwledig, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda i arwain ymchwil yng nghyd-destun unigryw cymunedau gwledig. Gan weithio ar y cyd â’n gilydd byddwn yn ystyried yn arloesol sut i wella lles cymunedol yng ngorllewin Cymru, gan ddefnyddio rhwydweithiau ehangach y Brifysgol i ddatblygu cyfleoedd hyfforddi newydd ar bob lefel.
  • Mae’r Academi Etifeddiaeth Gymreig yn darparu hyfforddiant, ymchwil a chymorth ymarferol i’r sector etifeddiaeth Gymreig, gan gefnogi twristiaeth a chymunedau lleol mewn meysydd megis dehongli, tirwedd, archaeoleg, yn ogystal â’r celfyddydau a diwylliant.  
  • Mae Academi Llais Ryngwladol Cymru, o dan gyfarwyddiaeth y tenor enwog Dennis O'Neill ac y mae’r Fonesig Kiri Te Kanawa yn noddwraig iddi, yn darparu hyfforddiant arbenigol i gantorion opera proffesiynol ifanc o bob cwr o’r byd ar ddechrau eu gyrfaoedd.
  • Darpara’r Brifysgol ystod o raglenni addysg a hyfforddi dwyieithog yn ogystal â chefnogaeth i fusnesau, mewn partneriaeth â darparwyr eraill, sy’n manteisio ar arbenigedd staff ac sy’n cynnig llwybr lle gall y Brifysgol ymwneud â sefydliadau allanol.

Mae’r Brifysgol hefyd yn estyn at wledydd eraill o gwmpas y byd gan ddarparu rhwydweithiau academaidd a rhwydweithiau ymchwil cadarn. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ar raglenni’r brifysgol yng Nghymru ac yn Llundain yn ogystal â rhaglenni cyfnewid i’r staff a’r myfyrwyr, ysgolion haf ac ymweliadau diwylliannol.

Y Brifysgol yw lleoliad yr Athrofa Confucius gyntaf yng Nghymru sy’n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr yn ogystal ag ysgolion yn y rhanbarth ddysgu’r Fandarin ac ymwneud â diwylliant Tsieina. 

Sefydlwyd yr Academi Cymru-America i ddathlu dylanwad Cymru yn UDA trwy hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol ac addysgol.  Manteisir hefyd ar arbenigedd y Brifysgol hefyd trwy ei gwaith ymchwil a’i chwricwlwm arbenigol mewn nifer o weledydd gan gynnwys y Dwyrain Canol.

Heb os nac oni bai, mae’r Drindod Dewi Sant yn Brifysgol i’r Unfed Ganrif ar Hugain.  Am ei bod yn ysgafndroed gall gofleidio heriau a throi’r heriau hyn yn gyfleoedd ar ran cymuned ein dysgwyr yng Nghymru a thu hwnt.

 

Yr Athro Medwin Hughes
DL DPhil DPS FRSA
Is-Ganghellor