Mae ychydig dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i ni ddechrau
ar daith sydd ar fin gweddnewid addysg uwch yng Nghymru.

Dr Medwin Hughes Mae wedi bod, ac mae’n dal i fod, yn fenter heriol, ond ar yr un pryd mae teimlad dwys o ddisgwyliad ynghyd â sylweddoliad ein bod ar fin creu rhywbeth hollol unigryw o fewn y sector prifysgol yng Nghymru. Yn anaml, yn yr amserau economaidd caled hyn, y rhoddir cyfle i Isganghellor arwain ar greu prifysgol newydd. Bydd tasg o’r fath yn ymwneud â ni i gyd, fel llywodraethwyr, staff a myfyrwyr, yn ogystal â chymunedau ehangach Coleg Prifysgol y Drindod a Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan.

Mae disgwyliad mawr am greu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda dros £18 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth eisoes wedi’i sicrhau at ei dyfodol. Rydym yn gweithio wrth ochr Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a phartneriaid i sicrhau y byddwn, gyda’n gilydd, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau unigolion a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn adeiladu ar ragoriaethau Llanbedr Pont Steffan a’r Drindod i yrru ymlaen cynllun strategol radical a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion penodol y rhanbarth tra hefyd yn darparu rhaglenni atyniadol i fyfyrwyr o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol. Prifysgol newydd i Gymru fydd hon ond bydd yn ymestyn yn bell y tu hwnt i ffiniau Cymru er mwyn hybu trosglwyddo gwybodaeth yn fewnol ac yn allanol.

Bydd yn hybu rhagoriaeth mewn ymchwil, ysgolheictod, dysgu ac addysgu a drwy hyn fe wneir cryn fuddsoddiad yn yr economi gwybodaeth ac arloesiad cymdeithasol. Bydd yn cefnogi twf economaidd, datblygiad cymdeithasol a diwylliannol yn ogystal â datblygu cymunedau yn ei hamgylchoedd cyfagos drwy ehangu mynediad a chyfranogiad mewn addysg uwch.

Gwreiddiau cenedlaethol

Bydd PC Y Drindod Dewi Sant yn gatalydd ar gyfer newid trawsffurfiol yn Ne Orllewin Cymru. Bydd yn gweithredu fel hwb strategol ar gyfer fframwaith conffederal rhanbarthol a fydd yn pontio addysg ysgol ac addysg bellach ynghyd ag addysg gymunedol oedolion awdurdodau lleol. Bydd yn cynnig model rhanbarthol ar gyfer datblygu a darparu llwybrau dysgu integredig a fydd yn trosgynnu ffiniau addysgol a sicrhau dilyniant rhanbarthol. Drwy gydweithio â cholegau addysg bellach, ysgolion, awdurdodau lleol yn ogystal â Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) eraill a chyflogwyr yn y rhanbarth fe fydd yn datblygu darpariaeth sy’n berthnasol i anghenion Cymru a’i chymunedau.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Drwy ei unedau academaidd bydd y Brifysgol yn darparu cwricwlwm nodedig ac unigryw, gyda phwyslais cryf ar etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru a dwyieithrwydd. Bydd yn datblygu academïau allweddol mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i symud ymlaen blaenoriaethau strategol mewn perthynas â datblygiad diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd a fydd o fudd, nid yn unig i’r rhanbarth, ond hefyd i anghenion ehangach Cymru: Bydd yr Academi Gwasanaethau Cyhoeddus yn darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus dwyieithog i sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd Canolfan y Celfyddydau a’r Dyniaethau Digidol yn creu adnodd unigryw gyda golygfa Gymreig i gryfhau arbenigedd cyfredol a chreu arbenigedd newydd mewn rhoi mynediad i, a dadansoddiad o, destunau a delweddau drwy gyfryngau digidol. Bydd datblygu Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwledig, mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn arwain ymchwil a hyfforddiant yng nghyd-destun unigryw anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymunedau gwledig.

Bydd yr Academi Etifeddiaeth Gymreig yn darparu hyfforddiant, ymchwil a chymorth ymarferol i’r sector etifeddiaeth Gymreig, gan gefnogi twristiaeth a chymunedau lleol mewn meysydd megis dehongli, tirwedd, archaeoleg, y celfyddydau a diwylliant.

Bydd y Gyfadran Gysylltiol yn darparu llwybr ddi-dor i astudiaethau lefel brifysgol ar gyfer myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach. Mae eisoes wedi ei datblygu mewn ymateb uniongyrchol i bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer trawsffurfio darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16.

Bydd yr hwb sgiliau – Y Goleudy – yn gyfleuster amlochrog ar gyfer hyfforddiant a chymorth dwyieithog, yn darparu rhyngweithiad academaidd-diwydiannol drwy rwydweithiau a fydd yn cynnwys cyflogwyr a Chynghorau Sgiliau Sector. Bydd yn datblygu canolfannau ar draws y rhanbarth mewn partneriaeth â darparwyr eraill i chwilio am allfeydd i arbenigedd staff o fewn y brifysgol yn ogystal â bod yn gwndid i’r brifysgol weithio’n agos â sefydliadau allanol.

Bydd PC Y Drindod Dewi Sant yn adeiladu ar bartneriaethau sydd wedi eu creu drwy Bartneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru i lunio cynghreiriau pellach a rhwydweithiau rhagoriaeth ar draws Cymru.

Cysylltiadau byd-eang

Bydd y Brifysgol yn datblygu ysgolheictod, ymchwil, dysgu ac addysgu o safon fyd-eang. Yn adeiladu ar raddfa ymchwil ardderchog yr adrannau academaidd a leolir ar gampws Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, fe fydd yn datblygu gweithgarwch ymchwil o safon fyd-eang mewn meysydd academaidd allweddol. Bydd yn ymgymryd â gweithgarwch ymchwil ar draws y ddau gampws a’u disgyblaethau er mwyn tanategu dysgu ac addysgu o’r radd flaenaf.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Mae ein rhwydweithiau a’n partneriaid yn ymestyn ar draws y byd yn darparu cyfleoedd i annog mewnfuddsoddi i’r rhanbarth drwy ddatblygiadau cyfalaf a denu myfyrwyr yn ogystal â darparu cyrsiau byr a chymrodoriaethau ar gyfer myfyrwyr a staff rhyngwladol.

Bydd hefyd yn datblygu brand Y Drindod Dewi Sant mewn gwledydd eraill drwy bartneriaethau yn y Dwyrain Pell, yn enwedig drwy arbenigedd Canolfan Confucius, ac yn y Dwyrain Canol drwy’r Ganolfan Astudiaethau Islamaidd. Bydd yn dal i hybu etifeddiaeth a diwylliant Cymru drwy gyfleoedd yn UDA, yn enwedig drwy fentrau fel Academi Cymru America.

Bydd y Brifysgol yn datblygu llwyddiant y prifysgolion cyfredol mewn denu myfyrwyr o ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Maent yn dod, nid yn unig â safbwyntiau unigryw ac allanol i’n stafelloedd darlithio, ond maent hefyd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i gymuned y brifysgol a ffyniant economaidd y rhanbarth.

Yn anad dim, bydd brand PC Y Drindod Dewi Sant yn cynrychioli rhagoriaeth yn nhermau’r cyfleoedd, profiadau a’r gwerthoedd ychwanegol y mae’n eu creu i’w chymuned o staff a myfyrwyr. Bydd yn dathlu amlygrwydd addysg uwch yn Ne Orllewin Cymru a bydd yn defnyddio ei rwydweithiau a’i harbenigedd i gyfathrebu’r fath amlygrwydd i weddill y byd.

Gobeithio y byddwch yn ymuno â ni wrth i ni ddechrau ar y daith hanesyddol hon.

Dr Medwin Hughes
Darpar Is-Ganghellor
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant