Gweithdrefnau Llywodraethu’r Brifysgol Cyfansoddiad
Cyfansoddiad a Statws Cyfreithiol y Brifysgol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gorfforaeth a sefydlwyd ac a lywodraethir o dan Siartr Frenhinol. Mae ganddi bwerau dyfarnu graddau a addysgir a graddau ymchwil ac mae’n gorff sy’n derbyn arian cyhoeddus.
Y Siartr Frenhinol
Eleni, unwyd yr hen Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gynt (a sefydlwyd gan Siartr Frenhinol Atodol yn 2010) a’r hen Brifysgol Fetropolitan Abertawe (Corfforaeth Addysg Uwch) i greu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ei newydd wedd. Yn dilyn penderfyniadau gan gynghorau’r ddau sefydliad blaenorol, rhoddodd y Cyfrin Gyngor ei sêl bendith ar 10 Gorffennaf 2012.
Sefydlir y Brifysgol newydd o dan Siartr Atodol i Siartr Frenhinol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Rhoddwyd y Siartr gyntaf gan y Brenin Siôr IV yn 1828. Ychwanegwyd y Breinlythyrau o dan y Sêl Fawr at y Siartr Frenhinol Atodol ar 28 Medi 2012.
Y Siartr Frenhinol a’r Statudau
Siartr a Statudau’r Brifysgol (PDF, 93 kb - 25.10.2012)
Mae Siartr Frenhinol Atodol 2012 yn pennu strwythur llywodraethu cyffredinol, aelodaeth, nodau a phwerau’r Brifysgol. Nod ffurfiol y Brifysgol yw “hyrwyddo addysg a lledaenu gwybodaeth trwy addysgu, ysgolheictod ac ymchwil er lles y cyhoedd”.
Dywed a disgrifia Statudau’r Brifysgol ymhellach elfennau sylfaenol gweithdrefnau llywodraethu'r Brifysgol, megis pwerau, aelodau a chyfarfodydd y Cyngor. Rhaid i Gyngor y Brifysgol gytuno’n gyntaf ar unrhyw newidiadau arfaethedig i’r Siartr neu’r Statudau ac wedyn fe’u cyflwynir i’w hystyried gan y Cyfrin Gyngor.
Ordinhadau
Ordinhadau’r Brifysgol (PDF, 1,005 kb - 25.10.2012)
Ordinhadau’r Brifysgol sy’n rhoi’r manylion sydd wrth wraidd egwyddorion llywodraethu’r Brifysgol, gan gynnwys sefydlu a rolau’r Cyngor, ei bwyllgorau sefydlog (gan gynnwys y Senedd) a’r Uwch Gyfarwyddiaeth (rheoli). Yr Ordinhadau hefyd sy’n amlinellu egwyddorion llywodraethu’r Brifysgol o ran materion ariannol ac academaidd.
Pennir, crëir a newidir yr ordinhadau gan Benderfyniadau’r Cyngor.
Statws Elusennol y Brifysgol
Ar 28 Medi 2012, unodd Corfforaeth Addysg Uwch Fetropolitan Abertawe i bob pwrpas â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant pan roddwyd y Sêl Fawr ar Siartr Atodol newydd y Brifysgol. Ar 29 Hydref 2012 rhoddwyd statws elusennol i’r Brifysgol newydd o dan Ddeddf Elusennau 2011 ac fe’i nodwyd ar y Gofrestr Elusennau gyda Rhif Elusen Gofrestredig 1149535.
Strwythur Pwyllgorau 2012/13
Strwythur Llywodraethu’r Brifysgol
I gael rhagor o wybodaeth, gweler tudalennau’r Cyngor a’r Uwch Reolwyr.



