Cysylltu

E-bost: dpa@ydds.ac.uk

Rhyddid Gwybodaeth

Nod Deddf Rhyddid Gwybodaeth yw hyrwyddo mwy o atebolrwydd a bod yn fwy agored ar draws y sector cyhoeddus. Mae’n rhoi hawl mynediad cyffredinol at bob math o wybodaeth a gofnodwyd ac sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’n gosod allan eithriadau i’r hawl ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys prifysgolion).

Dan y Ddeddf mae gofyn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gynnal Cynllun Cyhoeddi ynghyd â Chanllaw i Wybodaeth mwy manwl, a’u rhoi ar gael fel mater o arfer. Gobeithiwn y bydd hyn yn gymorth ichi ddod o hyd i wybodaeth yn haws, heb orfod cyflwyno cais ffurfiol am wybodaeth.