Trawsnewid Addysg... Trawsnewid Bywydau
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
tair canrif
dwy iaith
un brifysgol
1 Cyflwyniad
1.1 Mae'r datganiad o fwriad hwn yn amlinellu gweledigaeth strategol ar gyfer creu strwythur grŵp addysgol rhanbarthol newydd a fydd yn cyflwyno newid trawsffurfiol yn Ne Orllewin Cymru. Mae’n cynnig fframwaith radical ar gyfer darparu addysg ôl-16 gan greu isadeiledd grŵp addysgol newydd a fydd yn cynnig ystod o lwybrau addysgol ystyrlon, gan gyfoethogi’r dewis i fyfyrwyr a hyrwyddo darpariaeth addysgol ar y cyd. Mae’r cynnig yn adeiladu ar yr ad-drefnu cyfredol o fewn y rhanbarth sydd eisoes wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda chreu Prifysgol newydd i Gymru - Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
1.2 Cyflwynir y papur fel safle cyffredin cytûn rhyngom ni fel Is-Gangellorion a Phenaethiaid. Dylid ei ystyried yn amlinelliad cychwynnol o’r hyn y gellid ei gyflawni trwy greu strwythur prifysgol wedi'i ddiffinio o’r newydd ar ffurf grŵp yn ne Orllewin Cymru a fyddai'n cynnig cenhadaeth glir i wasanaethu Cymru a hyrwyddo newid trawsffurfiol.
1.3 Y bwriad yw creu model newydd ar gyfer addysg uwch o fewn y rhanbarth. Seilir y cynnig i sefydlu isadeiledd grŵp ar y tybiaethau cynllunio canlynol. Rhagwelir y bydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe yn uno’r holl wasanaethau rheoli, academaidd a chymorth fel eu bod, mewn ffaith, yn gweithio fel un sefydliad. Yn ogystal, byddai’r sefydliadau Addysg Bellach yn gweithredu fel partneriaid cyflawn o fewn y brifysgol sector deuol newydd.
2 Yr Achos o blaid Newid
2.1 Wrth fynd i’r afael â’r amrywiol gyfarwyddebau polisi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r sector addysg uwch yng Nghymru yn wynebu heriau strategol mawr. Mae’r ddogfen bolisi Er Mwyn Ein Dyfodol yn nodi’r angen i ystyried goblygiadau partneriaethau strategol a modelau ad-drefnu newydd. Gwneir hyn yn glir hefyd yn nogfen bolisi LlCC, Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant. Nid yw’r status quo yn opsiwn.
2.2 Mae hi’n bryd bellach sefydlu strwythurau addysgol newydd a fydd yn trawsffurfio’r tirlun addysgol. Mae angen i Gymru fod yn arloesol o ran ei chyfundrefn addysg a’i fframweithiau darparu er mwyn sefydlu grwpiau rhanbarthol a fydd yn gwella darpariaeth economaidd, yn cefnogi cyfalaf cymdeithasol ac yn ysgogi rhagor o lwybrau addysgol ôl-16 rhanbarthol. Trwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau mwy o synergedd yn ein darpariaeth sgiliau ac yn sefydlu partneriaethau strategol llawer cryfach â busnesau, cyflogwyr a darparwyr dysgu yn y gweithle.
2.3 Dros y ddau ddegawd diwethaf mae Prifysgol Morgannwg wedi darparu gwasanaeth da yn Ne Orllewin Cymru. Mae’r sefydliad, trwy ei raglen rhyddfraint, wedi cefnogi ei golegau achrededig yn eu darpariaeth addysg uwch; mae’r rhaglen hon wedi galluogi miloedd o ddysgwyr yn y rhanbarth i gael mynediad i addysg uwch trwy’r colegau hyn. O ganlyniad, mae Prifysgol Morgannwg wedi gwneud cyfraniad sylweddol i lefelau cyrhaeddiad addysgol a ffyniant economaidd y rhanbarth. Wrth i brifysgolion yng Nghymru ganolbwyntio mwyfwy ar yr heriau a’r cyfleoedd o fewn eu rhanbarth eu hunain, mae’n briodol i Brifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a’i phartneriaid AB i ystyried y goblygiadau i’w darpariaeth a’u presenoldeb rhanbarthol eu hunain. Bydd angen i unrhyw newid rhanbarthol gael ei gynllunio a’i reoli'n ofalus ac yn sensitif er mwyn sicrhau rhaglen gadarn a phriodol o ddarpariaeth addysg uwch.
2.4 Mae’r weledigaeth gyfredol ar gyfer sefydlu Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfle strategol i ddiffinio llwybr critigol cyffredin, ar y cyd, newydd rhwng y sefydliad newydd a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a nifer o Golegau Addysg Bellach yn Ne Orllewin Cymru. Gallai gweledigaeth ar y cyd ar gyfer creu Prifysgol Sector Deuol o fewn y rhanbarth fod o arwyddocâd a budd mawr i addysg ôl-16.
2.5 Diffinnir prifysgol sector deuol fel strwythur grŵp sy’n dod â sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch at ei gilydd o fewn rhanbarth daearyddol. Mae’n sefydlu trefniant sector deuol er mwyn mynd ati i rannu adnoddau, cynnal gweithgarwch cynllunio, academaidd ac ymchwil a sefydlu strwythurau rheoli unigol i esgor ar fanteision pendant i ddysgwyr.
2.6 Mae'r cynnig yn ddatblygiad naturiol i’r gweithgareddau ad-drefnu presennol yng Ngorllewin Cymru. Mae sefydlu Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant eisoes yn ffurfio'r sylfaen ar gyfer creu Prifysgol sector deuol. Caiff y Brifysgol newydd ei sefydlu'n Brifysgol golegol, gan osod y fframwaith ar gyfer dod â Choleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro a Choleg Ceredigion yn rhan o gynghrair strategol ranbarthol newydd gyda’r Brifysgol. Yn dilyn trafodaethau strategol cychwynnol gyda Byrddau Llywodraethwyr pob un o’r sefydliadau, cytunwyd i sefydlu partneriaethau academaidd agosach, yn amodol ar gymeradwyaeth y Byrddau Llywodraethwyr llawn. Gydag amser gallai hyn arwain at ddilysu’r holl gyrsiau AU trwy Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Byddai’r Penaethiaid yn chwarae rôl uwch yn rheolaeth strategol y Brifysgol ac yn cael eu penodi'n Brofostiaid. Byddai un cynllun addysgol AB / AU yn cael ei greu gan sicrhau cyfleoedd dilyniant ystyrlon a fframwaith cynllunio rhanbarthol ar gyfer arloesi, trosglwyddo gwybodaeth a chyfleoedd ymchwil pellach ar y cyd.
2.7 O ran Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, wrth iddi baratoi i sefydlu’i hun yn bresenoldeb rhanbarthol yng Ngorllewin Cymru, mae’r amser yn briodol hefyd i ystyried mireinio ymhellach y model sector deuol, ac ymateb i gyfleoedd newydd allai ddatblygu trwy sefydlu isadeiledd addysgol unedig gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, ac ymestyn y fframwaith partneriaeth cyfredol rhwng AB / AU i gynnwys darparwyr addysgol eraill. Trwy wneud hynny, rydym yn cryfhau capasiti rhanbarthol ac yn sefydlu sylfaen gref dros gyflwyno newid trawsffurfiol.
2.8 Mae’n amlwg bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn y papur hwn yn herio pawb sy’n ymwneud â rheoli a chyflwyno darpariaeth addysgol yn y rhanbarth. Mae’n galw am barodrwydd i groesawu rheolaeth newid ac i weithio gyda’n gilydd i drawsnewid y strwythurau presennol, fel y gallwn ehangu’r opsiynau addysgol sydd ar gael a chreu strwythur grŵp prifysgol sector deuol cryf a chynllun strategol cyffredin a fydd yn esgor ar fanteision sefydliadol clir, dyfodol cynaliadwy i addysg ac ymchwil, ac yn cyfoethogi profiad dysgu'r myfyrwyr.
2.9 Mae’r posibilrwydd o weld Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe yn dod at ei gilydd o fewn isadeiledd addysgol unedig newydd yn seiliedig ar draddodiad hirsefydledig o gydweithio ac o rannu gwerthoedd, cenhadaeth a darpariaeth addysgol gyffredin. Canolbwyntia’r ddwy brifysgol ar genhadaeth ranbarthol glir a chyflwyno darpariaeth uchel ei safon sy’n cyfoethogi dilyniant rhanbarthol.
3 Y Cyd-destun Polisi er mewn Gwerthuso’r Opsiynau
3.1 Wrth adolygu’r opsiynau posibl i’r dyfodol o ran cydweithio, rydym wedi ystyried y materion polisi a fyddai’n effeithio’n uniongyrchol ar unrhyw ad-drefnu yn y dyfodol. Rydym o’r farn y byddai’n rhaid i unrhyw bartneriaeth newydd arddangos yn glir y gwerth ychwanegol fyddai’n deillio o wariant cyhoeddus pellach ar gefnogi gweithgarwch academaidd presennol y ddau sefydliad. Rhaid i unrhyw fenter newydd allu arddangos cynllun strategol penodol ei ffocws a fydd yn gyrru yn eu blaen y blaenoriaethau a nodwyd yn y ddogfen bolisi Er Mwyn Ein Dyfodol ac a fydd yn adeiladu ar natur nodedig addysg uwch o fewn y rhanbarth. Nodwn i hyn fod yn ysgogydd allweddol i’r ddau sefydliad dros y degawd diwethaf. Mae’n amlwg y bydd yn rhaid i unrhyw ddatrysiad roi ystyriaeth i’r gyfarwyddeb polisi wreiddiol, Ymgeisio yn Uwch, yn enwedig:
- y farn a fynegwyd gan y Llywodraeth y diffinnir addysg uwch yng Nghymru gan rwydweithiau rhagoriaeth yn fwy na sefydliadau;
- dyhead i weld sector amrywiol o genadaethau gwahanol;
- dyhead i weld sefydliadau'n cael rhyddid i arbenigo mewn pynciau a chenadaethau sy’n diffinio eu cenadaethau craidd;
- dyhead i gefnogi clystyrau sy’n rhannu cenhadaeth gyffredin gyda’r bwriad y byddai clystyrau ystyrlon yn ddaearyddol ac yn swyddogaethol yn cynyddu cryfderau'r sefydliadau;
- dyhead i ddatblygu strategaeth addysg ddwyieithog ar gyfer addysg uwch trwy Gymru.
3.2 Nodwn hefyd y pwysigrwydd a roddir o fewn y polisi Er Mwyn Ein Dyfodol ar ailddiffinio’r isadeiledd addysgol cyfredol a’r ymrwymiad i ddefnyddio cyfran uwch o fuddsoddiad cyhoeddus i yrru ymlaen y blaenoriaethau a’r amcanion strategol sydd wedi'u nodi o fewn y fframwaith polisi AU newydd. Yn benodol:
- Mwy o bobl yn cael profiad o addysg uwch mewn ffyrdd gwahanol i’r cwrs gradd llawn amser traddodiadol;
- Llawer mwy o bobl yn gallu datblygu fesul cam o fewn addysg uwch, gan gynnwys trwy addysg uwch ran amser penodol ei ffocws ac wedi’i lleoli yn y gweithle dan arweiniad cyflogwyr;
- Llawer mwy o hyblygrwydd o ran strwythur a maint rhaglenni a’r dull o’u cyflwyno er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i’r sawl sy’n mynd i AU;
- Cymorth ariannol i fyfyrwyr wedi’i dargedu lle mae mwyaf ei angen;
- Llawer mwy o bartneriaethau a chynlluniau cydweithredu rhwng darparwyr i wneud y defnydd gorau o gryfderau ac adnoddau;
- Rhyngweithio cryfach rhwng darparwyr a busnesau;
- Capasiti a gallu cryfach i ymelwa ar wybodaeth.
3.3 Mae’r angen i sefydlu cyfundrefn addysg ranbarthol newydd sydd yn rhoi ystyriaeth i’r blaenoriaethau yng Nghynllun Gofodol Cymru, Pobl, Lleoedd, Dyfodol, yn hollbwysig. Mae goblygiadau’r ddogfen bolisi hon yn hanfodol i unrhyw gydweithio posibl gan ei bod yn cynnig cyfeiriad strategol cyffredin fyddai’n sail ar gyfer ystyried a chytuno ar fuddsoddiad cyfalaf a refeniw gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Felly bydd angen i unrhyw ddatblygiad posibl ddangos yn glir sut y bydd buddsoddiad pellach mewn addysg uwch ac addysg bellach yn sbarduno arloesi economaidd a chymdeithasol ac yn gwella sgiliau, addysg a dysgu lefel uwch.
3.4 Mae Cynllun Gofodol Cymru’n nodi’n glir rôl ar gyfer sefydliad prifysgol sector deuol a allai fynd i’r afael ag amryw o’r heriau strategol a nodwyd o fewn y tair strategaeth ardal berthnasol - sef Canol Cymru, Sir Benfro - Yr Hafan, a Bae Abertawe - Y Glannau a’r Cymoedd Gorllewinol. Bydd creu strwythur grŵp prifysgol newydd a fydd yn gallu darparu ystod o raglenni addysgol, hyfforddiant galwedigaethol ac ymchwil gymhwysol yn sicr yn cyflawni’r blaenoriaethau a osodwyd gan y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes newydd. Mewn cyfnod o her economaidd, mae’r angen am fodelau newydd o gynllunio a chyflwyno addysgol yn hanfodol. Mae angen i hyn ganolbwyntio ar dargedau gyda deilliannau mesuradwy clir sy’n dangos ychwanegedd rhanbarthol.
3.5 Yn yr un cyd-destun, bydd angen rhoi ystyriaeth i’r Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys dull gweithredu newydd ym maes datblygiad proffesiynol yn seiliedig ar y galw am sgiliau a’r angen i brifysgolion fynd i’r afael yn weithredol â’r agenda hon. Canolbwyntia hefyd ar rôl addysg uwch ac addysg bellach o ran datblygu rhwydweithiau dysgu integredig ar draws Cymru. Mae’n amlwg y byddai'n rhaid i unrhyw weithgarwch cydweithredol newydd ddangos sut yr ymatebodd i wella gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth yn gysylltiedig â blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bwriedir y bydd sefydlu isadeiledd prifysgol sector deuol newydd yn ysgogi mentrau dysgu seiliedig ar waith a chynllunio rhanbarthol pellach. Eisoes dyfarnwyd arian gan CCAUC i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe i ysgogi Menter Economaidd yn Ne Orllewin Cymru sydd yn dwyn ynghyd, o fewn un conffederasiwn, yr holl sefydliadau AB a’r byrddau masnach rhanbarthol. Byddai’r brifysgol sector deuol newydd hon yn gyrru’r agenda hon yn ei blaen fel maes o flaenoriaeth uchel gan ddatblygu ymhellach y berthynas rhwng AU a chyflogwyr yn y rhanbarth a chan gryfhau cyfraniad y sector i ddatblygu gweithlu.
3.6 Gellid rhoi ystyriaeth hefyd i ddatblygu cynghrair estynedig trwy Brifysgol Cymru. Mae’n amlwg y bydd y ddau sefydliad yn parhau i weithio tuag at ddatblygu cynghrair Cymru gyfan a byddant yn sefydlu rhwydweithiau cenedlaethol gydag aelodau eraill ledled Cymru. Credwn y bydd hyn yn cynnig gwerth ychwanegol i ddarpariaeth AU ac y bydd yn gwella capasiti. Eisoes mae’r ddau sefydliad wedi elwa o dderbyn cyllid sylweddol gan Brifysgol Cymru i sefydlu Cadeiriau mewn meysydd pwnc uchel eu blaenoriaeth a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rhagwelwn ragor o fuddsoddi strategol ar lefel ranbarthol trwy ddatblygu cynghrair Prifysgol Cymru.
3.7 Rhaid i unrhyw ddatrysiad newydd adeiladu ar gryfderau craidd presennol y ddau sefydliad. Mae PCDDS a PFA yn cael eu cydnabod fel sefydliadau dysgu cryf. Rhaid cynnal y cyd-destun traddodiadol y cyflwynir cyrsiau addysg uwch o’i fewn. O fewn unrhyw bartneriaeth newydd ni ddylid lleihau’r brandiau hanesyddol cryf sydd i’w gweld ar hyn o bryd yng nghymunedau lleol Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin ac Abertawe. Mae hyn yn hanfodol i unrhyw ddatblygiad newydd.
3.8 Wrth reoli newid sefydliadol cynigir mai’r dewis gorau i PCDDS a PFA fyddai creu isadeiledd grŵp prifysgol sector deuol newydd a fyddai’n adeiladu ar gryfderau hanesyddol y ddau sefydliad; ac mae potensial hyn yn gyffrous ac yn ddynamig. Nid yn aml y caiff prifysgolion yng Nghymru gyfle i ailgreu’u hunain a gweddnewid eu sefydliadau yn rhai newydd arloesol a fyddai’n cyflwyno ystod o gyrsiau addysg uwch ac addysg bellach a gweithgarwch ymchwil perthnasol i’r cyd-destunau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
4 Rhesymwaith ar gyfer Cydweithio
4.1 Yn sgil datblygiad arfaethedig isadeiledd grŵp sector deuol newydd, mae nifer o fanteision allai ddeillio i fyfyrwyr, y cymunedau a wasanaethir gan y sefydliadau presennol a'r sefydliadau eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Byddai’r brifysgol sector deuol newydd yn adeiladu ar bwysigrwydd cynllunio rhanbarthol a modelu darpariaeth ôl-16 fel cyfle ar gyfer dilyniant di-dor.
- Byddai’n mynd i’r afael â’r problemau yn achos myfyrwyr sydd wedi’u cyfyngu’n ddaearyddol a hefyd yn cefnogi cyflogwyr sy’n chwilio am gymorth addysgol i ddatblygu sgiliau.
- Mae’r model sector deuol yn dileu’r llinell derfyn rhwng gwaith AB galwedigaethol cryf a darpariaeth AU. Mae hefyd yn dathlu pwysigrwydd gweithgarwch ymchwil yn ei holl ffurfiau a sut y gellid datblygu ymchwil gymhwysol a fyddai’n benodol i’r rhanbarth ac a fyddai'n cwmpasu sylfaen sgiliau eang ar gyfer arloesi.
- Gan adeiladu ar lwyddiant presennol adrannau allweddol yn y ddau sefydliad AU ac yng Ngholeg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro a Choleg Ceredigion, a chyda’r posibilrwydd y cynhwysir colegau AB eraill ar draws ystod o feysydd ymchwil gymhwysol arbenigol, byddai’r brifysgol hefyd yn adeiladu ar yr ymrwymiad a ddangoswyd gan sefydliadau i ddatblygu ymchwil gymhwysol yn gysylltiedig â chyfarwyddebau polisi LlCC a rhwydweithiau proffesiynol. Byddai’r cyfuniad hwn o wybodaeth dechnegol a gwybodaeth lefel uwch gymhwysol yn rhoi’r brifysgolnewydd mewn sefyllfa i sefydlu canolfannau sgiliau clwstwr penodol, cryf ar draws y rhanbarth a fyddai’n mynd i’r afael ag anghenion cyflogwyr. Byddai’r ystod o feysydd academaidd a gynigir gan PCDDS a PFA ynghyd â Choleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro a Choleg Ceredigion yn ffurfio llwyfan rhanbarthol cryf iawn i ddatblygu i’r eithaf bartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn ymateb i anghenion economaidd y rhanbarth.
- Ffocws ar ehangu mynediad a chynyddu cyfranogiad. Byddai pob sefydliad o fewn y strwythur grŵp yn cael eu brandio fel sefydliadau dysgu, ac maent oll yn ddigon bach i allu canolbwyntio ar sicrhau gwerth ychwanegol uchel i ddysgu ac addysgu. Dylai hyn ddarparu sylfaen gadarn ar y cyd i ddatblygu strategaethau dysgu ac addysgu arloesol i annog cyfranogiad, ehangu mynediad a chyfoethogi ymhellach gyrsiau cyffrous newydd sy'n berthnasol i anghenion y rhanbarth.
- Byddai sefydlu prifysgol sector deuol ranbarthol gref yn Ne Orllewin Cymru yn cyflenwi’r ddarpariaeth academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ym Mhrifysgol Abertawe, sydd â chenhadaeth wahanol iawn fel sefydliadau a arweinir gan ymchwil. Gan dderbyn y bydd peth gorgyffwrdd mewn rhai meysydd academaidd, ni fyddai’n cystadlu â’r sefydliadau hyn yn uniongyrchol gan y byddai'r genhadaeth a’r gweithgarwch academaidd craidd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol gwahanol. Byddai hyn yn cynnal y dewis felly mewn ardal lle mae posibiliadau sylweddol o hyd ar gyfer gwella cyfranogiad. Byddai ymrwymiad cryf bob amser i ddilyn mentrau cydweithredol priodol a buddiol gyda'r ddwy brifysgol a arweinir gan ymchwil.
- Byddai’r potensial o gael dwy brifysgol o fewn rhanbarth De Orllewin Cymru - un â phwyslais cryf ar ymchwil ac yn arwain ar ymchwil arloesol, a’r llall yn brifysgol sector deuol sydd yn pontio darpariaeth ôl-16 ac yn datblygu sylfaen sgiliau rhanbarthol penodol ei ffocws, gan gynnig ystod o ddarpariaeth AB/AU ar draws nifer o gampysau dysgu gydol oes, yn ddatblygiad newydd cyffrous.
- Dylai’r strwythur grŵp newydd fod yn gyfrwng dylanwadol ar gyfer newid o fewn y cynllun datblygu lleol a rhanbarthol diweddaraf. Yn sgil ei sylfaen asedau byddai ganddo’r potensial i ddenu gweithgarwch partneriaeth newydd ag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill allai gael dylanwad arwyddocaol gan sbarduno rhanddeiliaid ariannol newydd. Mae hyn yn unol â pholisi Llywodraeth Cynulliad Cymru - agenda ‘Creu’r cysylltiadau’.
- Gallai cyflenwoldeb ei ddarpariaeth ehangu ystod y cynnyrch o fewn y ddarpariaeth addysg yn Ne Orllewin Cymru, gan hybu dilyniant a chynnig llwybrau dysgu newydd gydag ystod o bartneriaid AB/gwirfoddol ar gyfer dysgu gydol oes. Caiff y strwythur grŵp y cyfle i sefydlu strwythurau a fframweithiau radical a fydd yn ymgorffori’r sefydliad o fewn seilwaith addysgol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n rhaid cynyddu ymhellach astudiaethau rhan amser yn yr ardal a byddai datblygu Partneriaeth Dysgu Gydol Oes newydd Gorllewin Cymru yn sicr yn hwyluso hyn ac yn gwasanaethu'r anghenion a nodir yng Nghynllun Gofodol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Byddai creu un strwythur grŵp prifysgol yn lleihau cystadleuaeth wastraffus, gan alluogi ailgyfeirio adnoddau tuag at hyrwyddo cysylltiadau â diwydiant, masnach a rhanddeiliaid allweddol yn y sector cyhoeddus er mwyn cwrdd â'u hanghenion. Drwy hynny, cyfoethogir ac amrywir y ffynonellau incwm.
- Byddai’r posibiliadau i’r dyfodol o wella’r cydweithio trwy rannu swyddogaethau a gwasanaethau cymorth canolog ar draws Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a’r colegau AB yn arwain at welliannau o ran gwasanaeth cwsmeriaid, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
- Yn sgil cronni arbenigedd ac adnoddau dynol, byddai cynnydd sylweddol yn y gallu o ran rheoli a datblygu.
- Bwriedir hefyd y bydd y cydweithio’n creu cyfle ardderchog i wella cyfleusterau ar gyfer mewnfuddsoddi a rhesymoli ystadau pob un o’r sefydliadau presennol yn y tymor hir.
5 Diffinio gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
5.1 Dibynna llwyddiant y cynnig presennol ar fynegi gweledigaeth ddynamig glir ar gyfer cyfundrefn addysg uwch alwedigaethol newydd yng Nghymru. Bydd angen i’r isadeiledd sector deuol ddangos ymagwedd greadigol at ddynodi meysydd arbennig y gall arbenigo ynddynt, a dangos yn glir y gwerth ychwanegol i’r cyd-destun AU presennol yng Nghymru a thu hwnt. Rhaid i’r weledigaeth fod yn glir, yn realistig ac yn ddichonadwy. Rhaid iddi allu dangos y cysylltiadau cryf â Chymru a’r modd y mae’n cyflawni o ran adfywio economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
5.2 Bydd llwyddiant gweledigaeth o’r fath yn seiliedig ar dderbyn strategaeth amlochrog a fydd yn dathlu ac yn adeiladu ar ragoriaeth sy’n dangos y tir cyffredin rhwng AB, AU a darparwyr dysgu yn y gweithle. Un gweithgarwch uchel ei flaenoriaeth fyddai dymchwel y rhwystrau traddodiadol rhwng yr amrywiol sectorau.
6 Gwerthuso Materion Strategol
6.1 Credwn y byddai angen i’r strwythur sector deuol newydd feithrin cysylltiadau effeithiol â’r gymuned leol yn Ne Orllewin Cymru ac arddangos yn glir y gwerth ychwanegol sy’n deillio o ddatblygu ac ehangu capasiti.
6.2 Ni fydd y newid diwylliant sydd ei angen ar gyfer creu gweledigaeth o’r fath yn sylweddol. Mae’r ddwy Brifysgol yn rhannu gweledigaeth a diwylliant cyffredin. Mae cryn dipyn o ymgysylltu strategol yn digwydd eisoes mewn partneriaeth. Rydym o’r farn fod y sgiliau priodol eisoes ar gael i arwain ymarferiad o’r fath. O fewn timau rheoli presennol y ddau sefydliad ceir yr arbenigedd, yr ymroddiad a'r sgiliau angenrheidiol i greu uwch dîm rheoli effeithiol i fwrw ati i ddatblygu menter o’r fath.
6.3 Bydd datblygu rheolaeth effeithiol yn hanfodol. Yn y cyfnod interim byddai cryfhau strwythurau rheoli clir â fframweithiau gweithredol atebol yn flaenoriaeth. Byddai’n rhaid i’r strwythur grŵp newydd sicrhau’r safonau uchaf o ran diogelu ansawdd er mwyn ennill hyder yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a’r Cyngor Cyllido wrth gyflwyno cyrsiau addysg uwch yng Nghymru. Mae gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe draddodiad hir-sefydledig o ddarparu ansawdd. Yn yr un cyd-destun, mae Coleg Prifysgol y Drindod hefyd yn cael ei gydnabod am ei ddarpariaeth uchel ei ansawdd.
7 Diweddglo
7.1 Mae’r datganiad o fwriad hwn yn nodi cyd-destun strategol ar gyfer newid - parhau â’r daith a fydd yn trawsnewid addysg ôl-16 yn llwyr yn Ne Orllewin Cymru ac yn cyflwyno isadeiledd sector deuol arloesol a fydd yn ymatebol i heriau addysgol, economaidd a chymdeithasol y rhanbarth. Bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i raddfeydd amser realistig a fydd yn ymateb yn gadarnhaol i anghenion y rhanbarth; wrth i ni ymhelaethu ar y weledigaeth hon bydd angen rhoi ystyriaeth i farn y staff a’r holl randdeiliaid. Yna bydd ein cyrff llywodraethol yn mynd ati i yrru yn ei flaen y newid sylweddol hwn yn y ddarpariaeth er mwyn sicrhau portffolio addysg rhanbarthol cryf yn Ne Orllewin Cymru.



