Y Celfyddydau

Mae ymrwymiad y Brifysgol i’r celfyddydau diwylliannol, creadigol a pherfformio yn hysbys i bawb ac enillodd enw da i’w hunan oherwydd ansawdd ei graddedigion, y gwelir llawer ohonynt yn perfformio yn theatrau, neuaddau cyngerdd a sgriniau teledu ein gwlad, yn ogystal ag yn gweithio’r tu ôl i’r llenni yn gyfarwyddwyr, golygyddion, technegwyr a gweinyddwyr.

Mae wedi cefnogi cyhoeddwyr megis Llyfrau Parthian ac Iconau, ac wedi sbarduno eraill fel Accent Press ac Xite a sefydlwyd gan raddedig o’r MA Ysgrifennu Creadigol.

Cyngerdd yn y Brifysgol

Mae rhwydweithiau niferus y Brifysgol yn cynnwys cydweithio gydag artistiaid unigol a mudiadau, gan roi cyfleoedd rhagorol i fyfyrwyr weithio gydag eraill sydd ynghlwm wrth ddatblygu a hyrwyddo’r Celfyddydau. Mae byd celfyddydol bywiog y Brifysgol yn golygu fod digon ichi i’w fwynhau. Mae myfyrwyr llawn a rhan-amser yn cyfrannu at arddangosfeydd celf, cynyrchiadau theatr, digwyddiadau ysgrifennu creadigol a chyngherddau cerddorol yn y Brifysgol ei hun neu mewn canolfannau celfyddydau
rhanbarthol.

Mae Côr Y Drindod Dewi Sant yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu doniau lleisiol mewn cyngherddau a chystadlaethau, ac mae digon o gyfleoedd hefyd i unawdwyr ddatblygu eu sgiliau perfformio. Cynhelir sesiynau ymarfer trwy gyfrwng y Gymraeg, ond peidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad yr iaith - mae digon o bobl i’ch helpu - ond byddwch yn barod i ganu mewn unrhyw iaith - yn Gymraeg, Saesneg ac eraill! Mae’r côr yn magu enw iddo’i hun yn barod ac mae wedi ymddangos ar raglenni teledu ac wedi cael llwyddiant mewn cystadlaethau cenedlaethol.

Mae cyfleusterau ardderchog ar y ddau gampws ac mae’r Brifysgol yn rheolaidd yn croesawu cwmnïau theatr teithiol
a pherfformwyr proffesiynol.

Mae myfyrwyr yr Ysgol Theatr a Pherfformio yn cymryd rhan mewn nifer o gynyrchiadau trwy gydol y flwyddyn fel rhan o’u cwricwlwm prysur.

Mae myfyrwyr Celfyddyd Gain a Chynllunio a Chynhyrchu Theatr yn arddangos yn rheolaidd yn y Brifysgol ac mewn canolfannau celf ar hyd a lled y rhanbarth. Mae’r Sioeau Graddedigion yn rhan o wyl gelfyddydau Gwyl! ac maent yn teithio i ganolfannau eraill, gan gynnwys orielau celf rhanbarthol.

Anthony Jones

Mae’r Ysgol Astudiaethau Diwylliannol yn Llanbed yn gartref i gyrsiau Ysgrifennu Creadigol a Sgriptio sydd â hanes o ddatblygu awduron a chyhoeddwyr llwyddiannus yng Ngorllewin Cymru. Sefydlwyd y cwrs MA cyntaf mewn Ysgrifennu Creadigol yn Y Drindod, Caerfyrddin ym 1997.

Mae myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn elwa o brofiad yr awduron preswyl a’r awduron proffesiynol sy’n cefnogi’r MA trwy ddarlleniadau a thrafodaethau. Gallant berffeithio eu sgiliau ysgrifennu a pherfformio yn y Gymraeg neu’r Saesneg yn y noson fisol boblogaidd Cerddi a Chwrw  wedi ei sefydlu yng Ngwesty’r Queens, Caerfyrddin, gan grŵp o gyn-fyfyrwyr MA a ffurfiodd gwmni i ddarparu llwyfan i fyfyrwyr ac i bobl leol.

Gallant hefyd gael profiad marchnata a chyhoeddi wrth gyfrannu i’r we-gylchgrawn a olygir gan fyfyrwyr, The Lampeter Review, lle gall eu gwaith ymddangos ochor yn ochor â gwaith awduron rhyngwladol megis Edward Bond, Steven Birkoff a Philip Gross.