Ar Gyfer Busnes
Os ydych chi’n unigolyn, yn entrepreneur, yn fusnes sefydledig neu newydd ddechrau, yn y sector cyhoeddus neu wirfoddol, neu’n fenter gymdeithasol, mae sawl ffordd y gallwch ymwneud â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a defnyddio ein gwasanaethau i gyflawni’ch amcanion busnes a’ch helpu i ennill mantais gystadleuol.
Mae gennym ystod o wasanaethau arbenigol yn amrywio o ddarparu hyfforddiant sgiliau lefel uwch a datblygiad proffesiynol parhaus yn y Brifysgol neu yn y gweithle, i wasanaethau ymgynghorol a galluogi busnesau i gael mynediad i rwydwaith o arbenigedd a gwybodaeth drwy amrywiol fentrau a gyllidir.
Yn ogystal mae’r cyfleusterau sydd ar gael ar ddau gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin a Llambed ar gael i gleientiaid allanol trwy ein Gwasanaethau Arlwyo, Cynadleddau a Phriodasau.
Ewch i’r tudalennau Busnes am fwy o wybodaeth.






