Prif Switsfwrdd
01267 676767
Cyfeiriad E-bost
lleoedd@ydds.ac.uk
Mae croeso i bobl leol ddefnyddio ein gwasanaethau llyfrgell, sy’n cynnwys yr hawl i ddefnyddio ystod eang o lyfrau, cyfnodolion a chylchgronau, a mannau darllen ac astudio. Gallwch ymuno’n rhad ac am ddim i ddefnyddio’r cyfleusterau’n fewnol yn unig, neu ymaelodi fel benthyciwr allanol.
Mae’n bosibl y gall defnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus yn y Canolbarth a De-orllewin Cymru ymuno trwy’r cynllun Llyfrgelloedd Ynghyd – Pasbort . Holwch yn eich llyfrgell leol am ragor o fanylion ac i gael pasbort.