Ymgyrraedd yn Ehangach
Partneriaethau De-orllewin a Gogledd a Chanolbarth Cymru
Wrth anelu at ehangu mynediad i addysg uwch ar draws holl ystod oed myfyrwyr, trefna Partneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach weithgareddau dysgu a chodi dyheadau.
Ariennir Menter Ymgyrraedd yn Ehangach Y Drindod Dewi Sant gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ac mae'n rhan o ddwy Bartneriaeth: De-orllewin Cymru a Gogledd a Chanolbarth Cymru. Yn y partneriaethau hyn ceir holl sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach y rhanbarth, Gyrfa Cymru Gorllewin ac ysgolion perthnasol.

Cynhalia sefydliadau oddi mewn i’r Partneriaethau brosiectau sy’n anelu at ehangu cyfranogiad i grwpiau o bobl a eithriwyd neu a dangynrychiolwyd yn flaenorol.
Mae’r gweithgareddau’n cael eu hanelu’n bennaf at drigolion ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, pobl ifanc ag anableddau, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, dysgwyr cyfrwng Cymraeg a Phlant sy'n Derbyn Gofal/Pobl sy’n Gadael Gofal.
Os ydych wedi treulio amser mewn gofal neu os ydych yn gweithio â phlentyn mewn gofal neu'n gofalu am blentyn mewn gofal, cliciwch ar y ddolen i ddogfen ddefnyddiol Canllaw i Addysg Bellach ac Addysg Uwch i Bobl sy’n Gadael Gofal (Canllaw fyfyrwyr gadael gofal 2011-2012)
Mae mwy o fanylion hefyd ar dudalen we Gwasanaethau Myfyrwyr.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
|
De Orllewin Cymru Trystan Rees E-bost: t.rees@ydds.ac.uk |
Gogledd a Chanolbarth Cymru Eve Warburton E-bost: e.warburton@ydds.ac.uk |











