Diwrnodau Agored 2013

Campws Caerfyrddin
9 Chwefror
28 Mehefin
17 Awst (Ymgeiswyr Clirio yn unig)
18 Hydref
19 Hydref

Campws Llambed
2 Chwefror
22 Mehefin
17 Awst (Ymgeiswyr Clirio yn unig)
14 Medi
26 Hydref 

Darganfod Y Drindod Dewi Sant

Diwrnodau Agored Israddedig

Maen nhw'n gyfle i ddysgu am fywyd myfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant gan y bobl sy'n gwybod orau - y myfyrwyr a’r staff.

Diwrnodau Agored 2013

Caerfyrddin

Llambed

Gallwch gerdded o gwmpas y campws, dysgu mwy am y graddau sydd ar gael ac gofyn cwestiynau am y broses dderbyn, llety a chyfloedd am swyddi.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth
cysylltwch ag Emma Evans:

Ffôn 01570 424891

Ebost: e.evans@ydds.ac.uk

 

Diwrnod Ymweld Campws Llambed

Dewch i ymweld â ni ac edrych o gwmpas.

Dyma'r ffordd orau i gael gwybod beth sydd gan y Brifysgol a'r ardal i’w cynnig.

Archebu lle i ymweld a ni...

Cynhelir diwrnod ymweld bob dydd Mercher – cyfle i gael cipolwg ar fywyd yn y Drindod Dewi Sant cyn i chi wneud cais. Byddwn hyd yn oed dalu am eich llety dros nos neu roi £25 tuag at gostau teithio dros 100 milltir o gylchdaith.

Ar ddiwrnod ymweld gallwch:

  • Gwrdd â'r Tiwtoriaid Derbyn ac arbenigwyr pwnc
  • Fynd ar daith campws gan gynnwys y llyfrgell a chyfleusterau chwaraeon
  • Siarad â llysgenhadon myfyrwyr
  • Gweld tu mewn i lety myfyrwyr
  • Sgwrsio gyda chynghorwyr cymorth i fyfyrwyr
  • Cael atebion i'ch cwestiynau!

* Cofiwch fod siawns bod rhaid i chi ymateb i'ch cynigion Prifysgol cyn i chi gael cyfle i ymweld â ni. Os yw'ch dyddiad ymweld ar ôl i chi ymateb i'ch cynigion, mae pob croeso i chi gysylltu â ni i ofyn i ymweld yn gynt. Os nad ydych yn sicr pa bryd sydd angen i chi ymateb i'ch cynigion, ewch i Track, ac fe welwch y dyddiad ymateb yno.