Y Drindod Dewi Sant yw Y lle Cymraeg! 

Mae ffigyrau diweddar Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn dangos bod mwy o gofrestradau Cyfrwng Cymraeg yn y Drindod Dewi Sant nag yn unrhyw sefydliad arall yng Nghymru!

2 Myfyrwyr Cymraeg

Pam? Yn syml, am fod yna amrywiaeth o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gael yma i fyfyrwyr, a mwy a mwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddatblygu yn flynyddol!

Eleni er enghraifft, mae darpariaeth newydd wedi cael ei ddatblygu ym maes Busnes, ac mae’r Brifysgol wedi penodi darlithydd newydd cyfrwng Cymraeg i’r radd BA Rheolaeth Busnes ar gyfer Medi 2012. 

Un enghraifft yn unig yw hyn, gyda datblygiadau diweddar hefyd i’w gweld ym meysydd Perfformio, Cerddoriaeth, Celf a Dylunio, Chwaraeon ac Addysg!

Digon o gyfleoedd a digon o gefnogaeth!