Ymchwil a ariennir yn allanol ac Ymchwil Cymhwysol

Mae’r ymchwil a gyllidir yn allanol a’r ymchwil cymhwysol sy’n canolbwyntio ar lunio polisïau, yn cynnwys meysydd gwasanaeth cyhoeddus, iechyd a gofal cymdeithasol gwledig, cynaliadwyedd gwledig a chymdeithasol a threftadaeth.
Gellir cael gwybodaeth am lawer o’n prosiectau a ariennir yn allanol ac sy’n ymwneud ag adfywio economaidd trwy ymweld â thudalennau busnes y wefan hon.
Canolbwyntia Gwasanaethau Archeolegol Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan (UWLAS) ar ddarparu gwasanaethau paleoamgylcheddol o waith maes a dadansoddi yn y labordy i’r gwaith o lunio adroddiadau cyhoeddedig, papurau a monograffau. Ymhlith prosiectau UWLAS ceir partneriaethau y tu allan i’r brifysgol â’r llywodraeth wladol a rhanbarthol, ysgolion, a busnesau. Ariennir holl waith UWLAS yn allanol.



