Y Strategaeth Ymchwil

 ymchwil

Mae aelodau o staff academaidd y Brifysgol yn arwain y maes mewn ystod o ddisgyblaethau.

Mae’r Brifysgol yn annog ac yn cefnogi’r ymdrechion i ddatblygu clystyrau ymchwil, gan gyfuno ein rhagoriaeth academaidd â phartneriaid ym myd addysg, canolfannau ymchwil, mentrau ac awdurdodau rhanbarthol

Gan fanteisio ar ein cryfderau academaidd, mae’r Brifysgol yn cefnogi clystyrau ymchwil yn y Clasuron, Addysg, Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg, Treftadaeth a Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol. Mae rhwydweithiau Amlddisgyblaethol yn ystyried diwylliant cyfoes Cymru; Creadigrwydd, Arloesi a Dylunio; a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.

Clwstwr Ymchwil

Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg

Yn y clwstwr ymchwil hwn cyfunir y diddordebau ymchwil yn y disgyblaethau hyn sy’n ategu'i gilydd yn aml gan ganolbwyntio ar feysydd y dirwedd a'r amgylchedd, Môr y Canoldir a'r Dwyrain Agos, gwleidyddiaeth ddiwylliannol, ynghyd â diwylliant materol.

Gweld prosiectau yn y clwstwr ymchwil AHA

Y Clasuron

Mae ymchwil yn y clwstwr hwn yn cwmpasu ystod eang o bynciau ond mae’n canolbwyntio ar ddau brif faes o gryfder cydweithredol:  naratif hynafol a hanes Gweriniaeth Rhufain. Ceir synergedd ymchwil pellach ym meysydd crefydd, hanesyddiaeth, epigraffeg, a hanes cymdeithasol.

Addysg

Mae clwstwr ymchwil addysg yn cynnwys ymchwil sy’n canolbwyntio ar addysg a meysydd sy'n ymwneud ag arfer cymdeithasol.

Yn achos addysg mae’r pwyslais ar addysg blynyddoedd cynnar, anghenion addysg arbennig, addysg awyr agored, dwyieithrwydd, a datblygu sgiliau meddwl. Mae ymchwil ym maes ymchwil i ymarfer yn rhoi sylw i eithrio cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chymuned, gofal iechyd a chymdeithasol.

Mae addysgwyr athrawon yn ymwneud â chydweithwyr, athrawon dan hyfforddiant ac ysgolion i ddatblygu arfer ar lawr dosbarth trwy ymchwil gweithredu. Mae ymchwilwyr yn nisgyblaethau’r Gymraeg a seicoleg hefyd yn rhan o’r clwstwr amrywiol hwn.

Cyfarwyddwr Ymchwil Addysg Awyr Agored: Mae’r ganolfan yn gyfrifol am ddatblygu rhaglenni ymchwil a rhaglenni arloesol ym maes addysg awyr agored sy’n gysylltiedig â dysgu personol, gwell iechyd a lles, datblygiad cymunedol a chynaladwyedd amgylcheddol.

Diwinyddiaeth ac Astudiaethau

Mae ymchwil yn y clwstwr hwn yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n cynnwys teithiau a phererindodau seintiau, twristiaeth Eglwysig yng Nghymru, diwinyddiaeth Uniongred, portreadau o draddodiadau Hindŵaidd yn y Gorllewin, materion methodolegol wrth astudio crefydd, diwylliant gweledol y Beibl, Islam yn yr oes ddigidol, a mynachaeth.

Gweld prosiectau yn y clwstwr ymchwil DAC