Yr ail yng Nghymru, yr ail flwyddyn yn olynol

Ysgol yw hon sydd yn gyson uchel yn y prif arolygon ar gyfer addysg uwch
- Gosodir Astudiaethau Busnes a Rheoli YDDS yn safle 42,
- Mae MBA YDDS yn safle 42
- Mae Astudiaethau Busnes YDDS yn safle 58
Mae’r Ysgol hefyd yn perfformio’n dda'n gyson yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Mae’r pwyslais bob amser ar gymhwyso sgiliau a gwybodaeth yn ymarferol, ac mae gan fyfyrwyr ar ein rhaglenni hanes ardderchog o ddod o hyd i swyddi ar ôl graddio.
Mynnwch radd sy’n cyfrif – meddyliwch am astudio ar un o’n rhaglenni i israddedigion ym maes Rheoli, TG, Cyfrifiadura a Thwristiaeth.
Rhowch hwb i’ch gyrfa – dewiswch o blith un o 9 rhaglen MBA, neu raglenni meistr eraill.
Mae’n rhaglenni ymchwil poblogaidd ar gyfer MPhil a PhD yn cynnwys pynciau megis BBaChau ac entrepreneuriaeth, perfformiad busnes (gan gynnwys sectorau arbenigol megis iechyd a thwristiaeth), strategaeth busnes a chystadleurwydd rhanbarthol a hyrwyddo TGCh i fyfyrwyr benywaidd.





