
Mae rhaglenni dysgu yn y gwaith yn cael eu dilyn gan bobl sydd eisiau dysgu mewn ffordd sy’n uniongyrchol berthnasol i’w gwaith, boed hynny yn waith a delir neu yn waith gwirfoddol
Beth yw Dysgu yn y Gwaith?
Mae dysgu yn y gwaith yn seiliedig ar yr egwyddor bod gan ddysgu perthnasol yn y gwaith y potensial i gael ei adnabod a’i achredu fel rhan o ddyfarniad neu gymhwyster. Er mwyn gwneud hyn, rhaid dod â'r dysgu ynghyd mewn rhaglen gydlynol y gellir sicrhau ei hansawdd. Mae gweithgareddau yn y gwaith, wedi eu hategu gan ddarllen ehangach a gwybodaeth greiddiol, mewn gwirionedd yn dod yn rhaglen addysg uwch, wedi’i theilwra i gwrdd ag anghenion unigolion neu grwpiau o staff. Gall y rhaglen arwain at gymhwyster addysg uwch fel Tystysgrif Addysg Uwch, Gradd Sylfaen neu Radd Uwch, neu gall fod yn rhaglen fyrrach sy'n arwain at gredydau yn hytrach na chymhwyster cyfan.
Sut mae dysgu yn y gwaith yn ymateb i anghenion busnes?
- mae’n galluogi staff i ennill cymwysterau perthnasol y mae eu hansawdd wedi ei sicrhau tra yn cyfyngu ar yr amser y mae’n rhaid ei dreulio y tu allan i'r gweithle
- galw sy'n arwain y rhaglenni a gellir eu teilwra yn benodol i ofynion sy’n gysylltiedig ag anghenion y cyflogwr a’r unigolyn
- gellir datblygu rhaglenni teilwredig ar gyfer cyflogwyr o fewn graddfa amser fer
- gellir ymgorffori cyrsiau cyfredol perthnasol mewnol
- mae’n cynnwys ystod o becynnau dysgu ar-lein sy’n berthnasol i anghenion busnes
Nodweddion allweddol
- Dysgu sy’n ymateb i’r galw sydd â’i ansawdd wedi ei sicrhau ac sydd wedi ei addasu i anghenion unigolion ac anghenion datblygu eu cyflogwyr.
- Lleolir y dysgu yn y gwaith yn bennaf ac felly mae’n torri i lawr ar yr amser sydd ei angen y tu allan i’r gweithle. Mae rhai rhaglenni DtW nad oes rhaid eu mynychu a gellir eu hastudio yn y gwaith, yn y cartref neu mewn unrhyw le sydd â chyfrifiadur gyda chysylltiad i'r rhyngrwyd.
- Dysgu sydd wedi ei drafod, gyda ffocws ar bartneriaeth sy’n cynnwys y dysgwr, y cyflogwr a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Cynnigir rhaglenni drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
- Dysgu hunan reoledig a gynllunnir gan yr unigolyn sy’n galluogi dysgwyr i dderbyn cyfrifoldeb am ddatblygu eu rhaglen eu hunain. Gall dysgwyr gofrestru ar raglenni DtW yn hwylus, a chynllunio a datblygu eu cwricwlwm eu hunain sy’n cwrdd â’u gofynion dysgu ac anghenion eu cyflogwyr o fewn fframwaith y mae ei ansawdd wedi’i sicrhau.
- Gall achredu dysgu blaenorol fod yn nodwedd o’r rhaglen, naill ai ar gyfer dysgu a enillwyd drwy brofiad gwaith neu drwy astudiaeth flaenorol.
- Mae dysgu â chymorth technoleg yn un o nodweddion allweddol rhaglenni DtW ac mae'n cael ei ddatblygu ar draws cwricwlwm dysgu yn y gwaith y Brifysgol mewn rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae hyn yn caniatáu i bobl ddysgu ar amserau ac mewn mannau sy'n gyfleus iddynt hwythau.
Am fwy o fanylion cysylltwch â
Dr Elizabeth Wilson
Ffôn: 01267 676859
E-bost: e.wilson@ydrindoddewisant.ac.uk








