Gweld pob eitem o'r newyddion...
Cael cydnabyddiaeth am yr hyn yr ydych yn ei wybod
20.10.2011
Bydd y Drindod Dewi Sant yn cynnal gweithdy rhyngweithiol yn rhad ac am ddim i gefnogi datblygiad staff yn y gweithle yng Ngwesty'r Village, Abertawe ar 1 Tachwedd 2011.
Bydd Andrew Maund, rheolwr gyfarwyddwr cwmni hyfforddi ac ymgynghori llwyddiannus iawn o’r enw Challengers yn annerch y gynulleidfa. Mae ganddo arbenigedd sylweddol ym maes Mentora ac mae’n credu’n gryf mewn hyrwyddo datblygiad staff yn y gweithle. Bydd Andrew hefyd yn rhannu'i brofiadau uniongyrchol gyda phrosiect LATERAL.Mae’r prosiectau Mentora’r Gweithlu a LATERAL yn brosiectau a gyllidir yn gyflawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Meddai Dr Elsie Reynolds o’r Drindod Dewi Sant:
"Mae gwerthfawrogi eich staff yn agwedd bwysig o dyfu eich busnes yn yr hinsawdd economaidd heriol hon. Dysgu yn y gwaith yw'r ateb delfrydol i gydnabod ac achredu sgiliau eich gweithwyr gan fod staff yn gallu ennill cymwysterau perthnasol y mae eu hansawdd wedi ei sicrhau tra yn cyfyngu ar yr amser y mae’n rhaid iddynt dreulio y tu allan i'r gweithle.”
Mae’r prosiectau Mentora’r Gweithlu a LATERAL yn brosiectau a gyllidir yn gyflawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly er mwyn cadw lle cysylltwch â Catrin Evans c.e.evans@ydds.ac.uk
Nodyn at y Golygydd
- Nod prosiect Mentora’r Gweithlu yw annog unigolion o fewn busnesau i archwilio buddion mentora. Cyflawnir hyn drwy gwblhau modwl 20 credyd sy’n cwmpasu ymchwilio, cynllunio a gweithredu proses fentora sy’n bodloni anghenion busnes a diwylliannol eu cwmni / sefydliad. Nod y prosiect yw gadael cymynrodd ar lun proses fentora bwrpasol o fewn y busnes.
- Yn ystod y 7 mis cyntaf ers ei lansio, mae Mentora’r Gweithlu wedi cyrraedd 42% o’i darged dros 3 blynedd, ac mae’n profi i fod yn ddewis poblogaidd gyda’r rheini sy'n dymuno gwella'u sgiliau a'u gwybodaeth eu hun a bod o fudd i'w cyflogwr ar yr un pryd.
- Nod prosiect LATERAL yw helpu unigolion o fewn y gweithlu ennill credydau ar lefel prifysgol am y dysgu maent yn ei gyflawni tra'u bod yn gweithio. Mae’r gweithlu heddiw yn cael ei herio'n barhaus i ddatblygu sgiliau lefel uchel mewn amgylchedd gwaith cyfnewidiol a heriol. Mae’n bosibl y gellid defnyddio’r dysgu a gyflawnir er mwyn ymateb i’r heriau hyn i ennill credydau ar lefel prifysgol, sydd wedyn yn gallu cyfrannu tuag at gymhwyster. Yr unigolyn sy’n hawlio’r credydau ac mae’r broses yn cynnwys dynodi dysgu personol ac adfyfyrio ar arfer. Yn unol â rheoliadau mae’n bosibl ennill hyd at ddwy ran o dair y dyfarniad drwy ddysgu blaenorol. Drwy’r broses hon ac adnabod datblygiad proffesiynol pellach, darperir profiad ‘addysgol’ gwahanol ar gyfer dysgwyr anhraddodiadol, a gosodir gwerth ar y dysgu yr ymgymerir ag ef ac a gyflawnir yn y gweithle. Mae nifer o fusnesau a’u gweithwyr eisoes wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cyfle hwn. Unwaith eto mae’r prosiect hwn yn profi i fod yn boblogaidd iawn gyda 43 o fyfyrwyr wedi cofrestru hyd yn hyn.
- Mae’r ddau brosiect, (o’u cwblhau’n llwyddiannus), yn arwain at ddyfarnu credydau prifysgol y gall yr unigolyn eu rhoi tuag at gymhwyster cydnabyddedig megis BA, Tystysgrif / Diploma Ôl-raddedig neu MA.
Gwybodaeth Bellach
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Evans c.e.evans@tsd.ac.uk
Gweld pob eitem o'r newyddion...




