Mae’r Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Islamaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ysgol newydd mawr ei bri, gyda myfyrwyr o Gymru ac o bob cwr o’r byd yn dewis astudio ynddi.

Mae’r ysgol newydd hon yn deillio o gyfuno hanesyddol rhwng Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin a Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ac mae’n un o’r ysgolion mwyaf ac uchaf ei pharch yn y Deyrnas Unedig.
Gan fodloni’r galw cynyddol am ddarpariaeth ar bob lefel o'r byd addysg uwch, gall myfyrwyr ddod ar draws toreth o gyrsiau gradd i israddedigion, tystysgrifau a diplomâu i raddedigion, ynghyd â graddau MA, MPhil a chyfleoedd PhD mewn nifer o feysydd.
Cynigir graddau BA Anrhydedd Sengl mewn Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, a Chrefydd a Chymdeithas. Cynllun newydd cyfrwng Cymraeg yw’r BA Crefydd a Chymdeithas, sy’n cynnig y posibilrwydd i fyfyrwyr wneud eu cwrs cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig gradd Gydanrhydedd mewn Astudiaethau Islamaidd ac Astudiaethau Crefyddol, sydd yn rhaglen gydanrhydedd gydag Arabeg yn elfen ddewisol o fewn y cwrs. Mae nifer o opsiynau ar gyfer graddau Cydanrhydedd, er enghraifft Diwinyddiaeth ac Athroniaeth ac Astudiaethau Crefyddol ac Anthropoleg. Mae’r rhaglenni MA niferus yn cynnwys Crefyddau’r Byd, Diwinyddiaeth, Astudiaethau Islamaidd, Profiadau Crefyddol a mwy. Fe’ch gwahoddwn i dreulio ychydig o funudau yn chwilio’r wefan hon am y cwrs sy’n addas ichi.
Daw ein myfyrwyr ni’n rhan o draddodiad hanesyddol pwysig: ni yw'r ysgol gyntaf o’i bath yng Nghymru ac un o’r rhai hynaf yn y Deyrnas Unedig. Adlewyrchir yr etifeddiaeth gyfoethog hon yn yr adeiladau hanesyddol, Llyfrgell y Sylfaenwyr a’r ymdeimlad o harddwch sy’n amgylchynu pob campws. Dyma ysgol sy’n awyddus i fynd ar drywydd ei chysylltiadau yng nghyd-destun Cymru a hunaniaethau crefyddol yng Nghymru gan estyn allan hefyd i’r byd gydag arbenigedd mewn traddodiadau crefyddol byd-eang.





