Deg Rheswm Da dros Astudio yn yr Ysgol hon
Mae’r Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Islamaidd yn arwain y ffordd mewn deg maes. Pa rai sy’n bwysig ichi?
10 - Ymagwedd Unigryw a Blaengar at Grefyddau'r Byd
Mewn geiriau syml, nid oes unrhyw raglenni gradd eraill fel ein rhai ni. Mae’n modylau i gyd yn canolbwyntio ar Grefydd yn y Byd Cyfoes: o Grefydd mewn Ffilmiau i ddamcaniaethau am y byd a ddaw; o wrthdaro yn y Dwyrain Canol i Grefydd a'r amgylchedd.
9 - Staff wrthi’n Cyhoeddi Gwaith ac yn Arwain yn eu Meysydd
Nid yn unig mae’n staff addysgu ar gael i fyfyrwyr – maent i gyd yn cyhoeddi yn eu meysydd arbenigedd. Mae myfyrwyr yn elwa o gael staff sy’n arwain y ffordd yn eu meysydd ymchwil eu hunain.
8 – Cymuned Fywiog o Fyfyrwyr
Un peth y byddwch chi’n sylwi arno am Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw ei gydlynrwydd – mae’n teimlo fel campws, mae pobl i’w gweld ar hyd y lle, mae’n lle llawn egni. Mae’r un peth yn wir am yr Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Islamaidd. Mae’n myfyrwyr ni’n gwneud ffrindiau! Maent yn cwrdd â’i gilydd cyn ac ar ôl dosbarthiadau. Maent yn mwynhau ein digwyddiadau cymdeithasol niferus.
7 - Cyfleoedd ar gyfer Astudiaeth Bellach a Chymhwyster Proffesiynol
Pa un a ydych yn bwriadu manteisio ar y cyfleoedd eraill sydd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer astudiaeth uwch ai peidio, mae presenoldeb cyfleoedd dysgu eraill o fudd i’n holl fyfyrwyr oherwydd yr arbenigedd sydd ar gael. Mae’r Graddau Meistr o fudd mawr i’n hysgol, fel y mae ein gwaith yn arolygu ymchwil.
6 – Gweithgareddau Allgyrsiol Helaeth
Ni wyddom am ysgol arall sy’n gwneud cymaint â’n hysgol ni o ran mynd â myfyrwyr allan i’r maes! Rydym yn mynd â’n myfyrwyr i weld safleoedd crefyddol yn Llundain, rydym yn eu lletya mewn plasty gwledig o'r 19eg ganrif ar gyfer cynhadledd flynyddol, rydym yn cynnal nosweithiau Pizza a ffilmiau!
5 - System Tiwtor Personol sy’n cael ei monitro’n ofalus
Rydym yn gwneud mwy na siarad am ryngweithio rhwng staff a myfyrwyr - rydym yn gwneud iddo ddigwydd. Bydd pob un o’n myfyrwyr yn cwrdd â Thiwtor Personol tua dechrau’r tymor ac yna bydd ef/hi yn cadw cysylltiad yn ôl yr angen. Mae graddau’n myfyrwyr yn gwella – am ein bod wedi ymrwymo i’w llwyddiant academaidd.
4 - Staff yn Ymroddedig i Ragoriaeth mewn Addysgu
Mae hyn yn bwysig! Nid yn unig bydd staff gennych sy'n gwneud eu hymchwil eu hunain, ond rydym hefyd yn ymfalchïo mewn addysgu o ansawdd uchel. Rydym yn gwneud y darlithoedd mor ysgogol â phosibl ac yn adolygu’n gilydd ar ansawdd ein haddysgu.
3 - BA sy’n Golygu Rhywbeth
Mae’ch BA o’r Brifysgol hon yn radd o Brifysgol Cymru. Rydym yn gweithio’n agos iawn gydag arholwyr allanol i sicrhau bod dosbarth y radd rydych yn ei derbyn yma'r un peth â phe baech yn ei derbyn o brifysgolion pennaf eraill y Deyrnas Unedig.
2 - Cefnogaeth i sicrhau Llwyddiant Myfyrwyr
Rydym yn ymfalchïo yn y gefnogaeth a roddwn i’n myfyrwyr – mae hyn yn golygu ein bod yn cynllunio cyfleoedd arbennig i gefnogi gwaith, o weithdai ysgrifennu traethodau i ddigwyddiadau arbennig i ymdrin â meysydd nad ydynt ar y cwricwlwm.
1 - Mae’n Graddedigion yn Cael Swyddi
Mae graddedigion o’n Hysgol ni wedi mynd ymlaen i gael llwyddiant mewn sawl maes. Rydym wedi cynhyrchu ysgolheigion, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, offeiriaid – popeth gallwch feddwl amdano. Mae gennym fyfyrwyr sy’n mynd i ddefnyddio’u gradd mewn pob math o feysydd, o’r cyfryngau a gwaith diplomyddol i swydd fel athro neu ym myd addysg uwch. Mae 97.9% o raddedigion y llynedd mewn gwaith neu’n astudio ymhellach!



