Gwasanaethau Ymgynghorol a Chyrsiau Byr

Gwasanaeth Ymgynghorol a Hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth Amlddiwylliannol / Crefyddol


Mae academyddion o’r  Ysgol Diwinyddiaeth, Crefydd ac Astudiaethau Islamaidd yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol a hyfforddiant ar sut i wella ymwybyddiaeth sefydliadau o’r materion cymhleth sy’n gysylltiedig â byw a gweithio mewn cymdeithas amlddiwylliannol. Gellir rhoi cyngor ar arferion a thraddodiadau crefyddol sylfaenol ynghyd â chredoau ac agweddau diwylliannol a chrefyddol sydd wedi gwreiddio’n ddwfn.

Gwasanaeth Ymgynghorol a Hyfforddiant ar Islamoffobia


Mae materion yn ymwneud ag Islam a Mwslimiaid yn y newyddion byth a hefyd y dyddiau hyn. A yw’n bosibl i ddiwylliannau a chredoau gwahanol iawn fyw ochr yn ochr â’i gilydd yn gynhyrchiol ac yn heddychlon? Mae hyn yn bryder i holl weithwyr y sector cyhoeddus, heb sôn am bawb syn gwerthfawrogi rhyddid a goddefgarwch ond sy’n pryderu ynghylch sut i fagu perthynas â phobl o ffydd wahanol. Mae’r Ysgol Diwinyddiaeth, Crefydd ac Astudiaethau Islamaidd yn cwrdd benben â’r her hon gan roi cyngor a chyflwyniadau arbenigol mewn maes sensitif iawn. Mae aelodau o’r Ysgol yn ymwneud â lefelau uchaf y llywodraeth ar hyn o bryd yn datblygu polisi a gweithdrefnau. Gallant rannu eu harbenigedd gyda’ch sefydliad chi mewn ffyrdd effeithiol.