Parch. Ainsley Griffiths MA (Oxon), MSc (Manceinion)
Manylion ar sut i gysylltu
Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau IslamaiddFfôn: 01267 676607 (6607)
E-bost: ainsley.griffiths@ydrindoddewisant.ac.uk
Campws
Campws CaerfyrddinTeitl y Swydd
Rôl yn y Brifysgol
Caplan a Darlithydd rhan-amser mewn Astudiaethau Crefydd
Cefndir
Profiad proffesiynol
- 2008 – Darlithydd rhan-amser – Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd
- 2005- Caplan Coleg y Drindod Caerfyrddin a Swyddog Addysg Weinidogaethol Barhaus Esgobaeth Tyddewi
- 2001-2005 Offeiriad Plwyf, Pwllheli a Aber-erch 1998-2001 Is-Ganon, Eglwys Gadeiriol Bangor
- 1995-98 Ymgeisydd am urddau, Ripon College Cuddesdon, Rhydychen
- 1997 Ysgol Raddedigion, Sefydliad Eciwmenaidd Cyngor Eglwysi’r Byd, Bossey, Genefa
- 1992-95 Athro mathemateg, Aquinas College, Stockport
Diddordebau Academaidd
Cristnogaeth, gyda phwyslais yn enwedig ar Ddiwinyddiaeth Systematig.
Ar hyn o bryd, rwy’n gwneud ymchwil doethurol ar arwyddocâd rhodd, aberth a chyfnewid o fewn diwinyddiaeth systematig Gristnogol. Mae hyn yn cloddio amrywiaeth eang o ffynonellau o’r dystiolaeth Feiblaidd yn yr Hen Destament a’r Newydd, ysgrifau Tadau’r Eglwys, (yn enwedig Irenaeus, Athanasius ac Awstin) a diwinyddiaeth Drindodaidd Tomos o Acwin, y diwinydd hynod arwyddocaol o’r 13fed canrif, ochr yn ochr â lleisiau mwy diweddar fel y diwinydd Catholig o’r ugeinfed ganrif, Hans urs von Balthasar, yr athronwyr Jacques Derrida a Jean-Luc Marion a’r clwstwr o awduron (Anglicaniaid yn bennaf) sy’n gysylltiedig â’r mudiad dylanwadol cyfoes ‘Radical Orthodoxy’, yn enwedig John Milbank. Bydd y traethawd hefyd yn ystyried pwysigrwydd rhodd, aberth a chyfnewid o fewn cyd-destun litwrgaidd / sacramentaidd ac yn diweddu trwy archwilio’r goblygiadau moesol ar gyfer masnach ryngwladol, fyd-eang.



