Croeso i Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon
Pennaeth Ysgol: Dr Jane Waters
Ffôn:
E-bost:
Nod Ysgol Hyfforddiant Addysg Gychwynnol Athrawon y Brifysgol hon yw darparu gweithlu o’r radd flaenaf ersicrhau yr addysg orau yn ysgolion Cymru a thu hwnt.
Mae’r Ysgol yn perthyn i Gyfadran Addysg y Brifysgol ond hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe fel Canolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru (CAADOC). Cydweithiwn gyda’n gilydd er sicrhau cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ond tra lleolir ycwrs ôl-radd (TAR) cynradd ac uwchradd yn Abertawe, Y Drindod Dewi Sant sydd yn darparu’r cwrs tair blynedd BA Addysg Gynradd gyda SAC – gyda Statws Athro Cymwysedig.
Yn yr Ysgol mae tîm o diwtoriaid profiadol ac arbenigwyr pynciol ar draws y cwricwlwm cynradd. Mae nifer yn gwneud gwaith ymchwil ac yn gweithio mewn ysgolion yn gyson er sicrhau hygrededd eu hymarfer. Gall y mwyafrif ohonynt ddarparu’n ddwyieithog, ac yma y ceir y ganran uchaf o hyfforddeion cyfrwng Cymraeg ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon. Er hynny, mae’r hyfforddiant yn galluogi darpar athrawon i ystyried gweithio yn Lloegr a thu hwnt. Daw rhai o Lundain atom yn flynyddol i recriwtio athrawon a dyma’r ymateb a dderbyniwyd gan un Awdurdod Addysg yno:
During all the years we have been visiting Trinity College we have always been impressed with the calibre of students wishing to seek employment with us. We were particularly delighted with the students interviewed this year. Not only had they gained very useful experience on their teaching placements they were very well briefed on other aspects of a “teacher’s role” within the every day life in school. This is the result of what one can only surmise as being the high quality of the guest speakers and the excellent understanding of the course leaders.
Gweithiwn mewn partneriaeth â thros 300 o ysgolion ar draws gorllewin a de Cymru. Eleni cynlluniwn newidiadau radical i’r rhaglen gan sicrhau mwy o gyfleoedd i ymweld ag ysgolion i arsylwi ac addysgu. Rydym fel Ysgol yn ffodus o’r buddsoddiad cyson a wna’r Brifysgol mewn adnoddau TGCh ac o ran ystafell a chyfarpar arsylwi unigryw mewn dwy ysgol yn y dref. Galluoga hynny i hyfforddeion arsylwi ac addysgu gwersi ‘micro’ a rhoddir cryn bwyslais ar ddysgu yn seiliedig ar ddatrys problemau a sgiliau meddwl.
Ymdrechwn i ehangu profiadau hyfforddeion mewn amryfal ffyrdd megis modylau dewisol ychwanegol ac ymweliadau â Llundain, Virginia, Lesotho a Seland Newydd (2013), yn ogystal ag ymweliadau addysgiadol o fewn dalgylch y Brifysgol fel sail i waith maes.
Cydweithiwn â’r Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol i ddarparu cwrs BA Astudiaethau Addysg Gynradd. Darparwn hefyd gwrs MA Addysg i athrawon a chydweithiwn ag Awdurdodau Lleol i achredu ystod o raglenni hyfforddiant mewn swydd ar lefel Tystysgrif Raddedig.
Braint yw cael cydweithio â thîm ymroddedig o diwtoriaid sy’n anelu at ragoriaeth yn barhaus.



