Gweld pob eitem o'r newyddion...
Ymgorffori TGCh ar draws y Cwricwlwm
19.01.2012
Braf gennym eich gwahodd i ‘Ddysgwrdd’ cyntaf Sir Gaerfyrddin a fydd yn canolbwyntio ar ymgorffori TGCh ar draws y cwricwlwm er mwyn datblygu meddyliau.
Beth yw Dysgwrdd (Teachmeet)?
Dysgwch rywbeth newydd, rhyfeddwch, dewch i gael eich difyrru a’ch symbylu. Cyfarfod anffurfiol yw hwn o’r rheini sy’n chwilfrydig am ddefnyddio technoleg i wella addysgu a dysgu. Gall unrhyw un rannu syniadau gwych y mae wedi’u treialu ar lawr dosbarth, holi cwestiynau neu ymuno er mwyn bob yn rhan o sgyrsiau ynghylch dysgu, Mae croeso i weithwyr addysg proffesiynol o bob sector gymryd rhan.
Pryd a ble?
Dyddiad: Dydd Iau 26 Ionawr, 2012
Ble: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA313EP
Amser: 6.00pm – 8.00pm
Ystafell HG005
Tagiau a Twitter – Isod
Dewch i ni gadw popeth gyda’i gilydd a defnyddio’r tag isod ar gyfer pob postiad, delwedd, trydariad a chyflwyniad sy’n ymwneud â’r Dysgwrdd hwn #ICTAC
Bydd BCaD Cymru hefyd yn ffrydio'r Dysgwrdd yn fyw. I wylio’r digwyddiad, ewch i: http://www.livestream.com/ngflcymrugcad. Bydd modd hefyd i chi wylio recordiad ar ôl y digwyddiad ar yr un safle.
Beth allwch chi ei wneud?
Mae croeso i chi ddod draw i gael sgwrs, i gyfarfod â phobl newydd, neu i roi anerchiad saith munud, cyflwyniad nano dwy funud neu arwain sgwrs sy’n gysylltiedig â’r thema – ‘TGCh ar gyfer dysgu’ mewn rhyw fodd.
Gwybodaeth Bellach
Gwydion Wynne
07897293124
Gweld pob eitem o'r newyddion...



