Gweld pob eitem o'r newyddion...

Y Drindod yn lansio ymateb o Gymru i’r MTL

20.05.2009

Mae Coleg Prifysgol y Drindod newydd lansio rhaglen newydd ac arloesol MA Addysg. Wrth i gyflwyniad y radd Meistr mewn Dysgu ac Addysgu (MTL) yn Lloegr gael ei symud yn ôl i fis Medi 2010, mae Coleg Prifysgol y Drindod yn symud ymlaen, fis Medi nesaf, gyda chwrs mae’i nodweddion â chryn debygrwydd i’r MTL.  Fodd bynnag, yn wahanol i’r MTL bydd MA Addysg y Drindod ar gael i athrawon mwy profiadol yn ogystal  ag i ANG.

Wrth lansio’r rhaglen, nododd Dr Dylan Vaughan Jones, Pennaeth Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon (HAGA) ‘Mae gan Goleg Prifysgol y Drindod draddodiad hir o Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon (HAGA), a’r llynedd graddiwyd ein darpariaeth gan Estyn fel y ddarpariaeth orau yng Nghymru. Mae’r MA Addysg yn manteisio ar y cryfder hwn yn ogystal ag ar ei arbenigedd mewn darpariaeth ddwyieithog a gydnabyddir yn genedlaethol’.

Tra bod dadlau’n parhau yn Lloegr ynglŷn ag egwyddor gofyn i bob ANG yn y dyfodol ymgymryd â’r MTL, cred y Drindod y bydd rhai ANG yng Nghymru yn gwerthfawrogi’r cyfle mae’r cynllun newydd hwn yn ei gynnig i’r rheini sy’n dymuno adeiladu ar eu haddysg a hyfforddiant cychwynnol gydag astudio achrededig pellach. Mae llawer o fyfyrwyr eisoes yn ennill credydau lefel 7 fel rhan o’u TAR ac mae’r Drindod yn awyddus i weld myfyrwyr yn adeiladu ar y credydau hyn ac yn gweithio tuag at radd Meistr Addysg.

Yn ogystal ag ANG ac athrawon wrth eu gwaith yn Ne-orllewin Cymru, mae’r rhaglen eisoes wedi denu diddordeb gan fyfyrwyr rhyngwladol. Meddai Dr Russell Grigg, Ymgynghorydd Sicrhau Ansawdd a Chydlynydd y Rhaglen MA Addysg o fewn Ysgol HAGA, ‘dylunnir y cynllun ar gyfer myfyrwyr sydd angen rhaglen hyblyg o astudiaeth ôl-raddedig sy’n gysylltiedig â’u gwaith o fewn cyd-destun addysgol. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr feithrin dealltwriaeth feirniadol a dadansoddol ar radd uwch o’u harfer eu hunain, yn ogystal â dod ag elfen o ffresni i’w gwybodaeth a dealltwriaeth o’u pwnc.’ 

Credir mai gradd MA Addysg newydd y Drindod yw’r rhaglen gyntaf o’i bath yng Nghymru ac ychwanegodd Dr Grigg, ‘Bydd yr MA Addysg yn drwyadl yn academaidd ond wedi’i hysgogi gan anghenion proffesiynol. Fe’i dyluniwyd er mwyn bodloni anghenion athrawon sy’n gweithio yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r rhaglen yn ddigon hyblyg i ganiatáu i athrawon ar lefel gynradd, uwchradd ac addysg bellach archwilio a dadansoddi’n feirniadol themâu a phroblemau sy’n berthnasol i’r cyd-destun maent yn gweithio o’i fewn'.

Cewch fanylion pellach am y rhaglen ar wefan y Brifysgol neu trwy anfon e-bost at Dr Russell Grigg g.r.grigg@ydrindoddewisant.ac.uk

MA Addysg

Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon

Gwybodaeth Bellach

Cyswllt y Wasg: Eleri Beynon 01267 676790



Gweld pob eitem o'r newyddion...